Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

U ^L r\>* r^LJ. ÇYWWM Pj&ÄST CYF. II. RHAGFYR, 1898. Rhif 24. YSTBAEON 0 HANES PRYDAIN. {Safonau I. a II.) VI. TYWYSSOG CYMEU. EDI marw Llywelyn, brenin Cymru, rhaid oedd i'r Cymry gael tywysog newydd. Ond yr oedd Edward, brenin Lloegr, wedi penderfynu na chaent yr un brenin ond efe. Gwyddai mai rhyfela yn erbyn Lloegr a wnai y Cymry os caent frenin arnynt eu hunain. Ond nid oedd dim wnai y tro i Gymry y de a'r gogledd ond cael Cymro yn frenin arnynt. Ac o'r diwedd addawodd Edward Gymro yn frenin iddynt, os doenti'w gyfarfcd ef i Gaernarfon yn yr haf. Ar lan y Fenai y mae castell Caernarfon. Bu Ed <vard y brenin a'i frenhines yno'n aros, ac yno y ganwyd mab hynaf y brenin, ebe'r hen hanes. Yn yr haf daeth y Cymry i Gaernarfon i ofyn i'r brenin gyf- lawni ei addewid, a rhoddi Cymro yn dywysog iddynt. A dyma'r brenin yn dyfod atynt, a'r baban bach yn ei freichiau, ac yn dy- wedyd wrthynt,—" Wele eich dyn. Dyma i chwi Gymro bacli wedi ei eni yng Nghymru, ac ni fedr air o Saesneg." Gwenodd y Cymry v rth ei weled, a dywedasant mai efe gai fod yn frenin Cymru. Daeth pob un at ei grydi'w gusanu, ac yna aethant adre yn llawen wrth feddwl mair Cymro bach fyddai brenin Cymru. Rhowd y baban i Gymraes i'w fagu, gyda bachgen o'r enw Hywel, a dyma fel y canai uwch ben ei gryd,—