Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<)ftíWU ft&ttt' Oyf. II. TACHWEDD, 1893. Ehif 23. YSTRAEON 0 HANES PRYDAIN. (Safonau I. a II.) V. LLUDD LLAW AEIAN. N yr hen amser, draw ymhell bell yn ol, yr oedd y Cymry yn plygu glin o flaen llawer duw. Yr oedd hynny cyn iddynt glywed am Iesu Grist, ac yn wir cyn geni Iesu Grist i'r byd. Ac yr oedd gan un o'r hen dduwiau hynny law arian, yn ol yr hanes. Lludd oedd enw duw y llaw arian. Efe oedd duw masnach; a'i waith oedd hyn,— cadw pob lleidr o'r siop, rhoi bendith ar y masnachwr, a rhoi gwynt teg i lenwi hwyliau pob Uong. Yr oedd ar y Ueidr a'r gwynt croes ofn y llaw arian honno. Hoff fan Lludd oedd glan afon neu ogof ar lan y môr. O'r fan honno gallai weld y llongau, a chodi ei lawarian i'w bendithio. Y mae ogof ryfedd ar draeth Dyfed, yn sir Benfro, o'r enw Lyd- step. Tybid un waith fod Lludd yn hoff o'r ogof honno. Afon fawr yw afon Hafren, a bydd llongau lawer yn nofio hyd-ddi. Yn yr hen amser yr oedd teml ar ei glan, yn Lydney, i dduw y Uaw arian. Ond hoffaf fan Lludd oedd glan afon Tafwys. Yr oedd teml iddo lle y saif Llundain yn awr. Ar fryn yr oedd y deml, a geilw'r Saeson y bryn hwnnw yn Ludgate Hill hyd heddyw. A dyna pam y bydd y Cymiy'n galw Llundain yn Gaer Ludd. Wedi i'r efengyl ddpd i'r wlad hon, tynnwyd temlau Lludd i lawr. Ac ar le y creiri:•-? =tî3\Q oedd ar lan y Tafwys, codwyd eglwys wych. Y mae Üòn yn un o eglwysi mwyaf ein gwlad; Eglwys St. Paul yw ei henw.