Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ffîtt&yft* w&ttt. Cyf. II. MEDI, 1893. Rhif 21. YSTRABON 0 HANES PRYDAIN. (Safonau I a II) III. Y CAETHION OLAF. N yr hen amser, yr oedd pobl yn gaeth, a phlant hefyd. Yn aml iawn yr oedd dyn yn gweithio yn y cae a chadwen wrth ei droed. Yr oedd yn cael ei guro, hefyd, nes y llifai ei waed. Ac os oedd y tad a'r f am yn gaeth, caeth oedd y plant hyd eu bedd. Y mae dros dri chan mlynedd, yn ein gwlad ni, er pan aeth y caeth olaf yn rhydd. Ond y mae caethion yn Affrig eto. Prydain anwyl,—gwlad rydd yw ein gwlad ni. Nid oes fílangell ynddi, ac nid oes cadwyn. Y mae Uawer ynys, yn y môr pell, yn eiddo i ni. Yr oedd caethioa ynddynt. Ond, ar ddydd cyntaf Awst, 1833, yr oedd pawb i fynd yn rhydd. Aeth y caethion i'r eglwys i weddio, y nos cyn hynny. Dyna gloch y bore'n canu,—yr oedd pawb yn rhydd! O ddydd llon ! Hwnnw oedd dydd cyntaf eu rhyddid. Wylai rhai o lawenydd pur, neidiai rhai ereiÍL, canai y lleill. Y dydd hwnnw caent gyflog am eu gwaith, a mynd i'r fan a fynnent; ac ni chai neb werthu eu plant o'r dydd hwnnw. A daw caethion Affrig yn rhydd hefyd. Yr efengyl ddaeth a rhyddid. i'r byd. I'r efengyl yr ydym i ddiolch am ein bod yn rhydd. Os yw'r Iesu'n frawd. i bob dyn, yna y mae dynion yn frodyr i'w gilydd, ac yn rhydd.