Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<)WWU Pt&Uf. Oyf. II. GORFFENNAF, 1893. Ehif. 19. DECHREU CYFJSTOD NEWYDD. ADDYSG RESYMOL I BLANT CYMRU. WELIR oddi wrth y rheolau newyddion, rheoíau'r Swyddfa Addysg am 1893, fod cyfnod newydd yn hanes Cymru i ddechreu gyda'r nwycldyn hon. O'r diwedd y mae ein rheolwyr wedi gweled mai ynfydrwydd ydyw ceisio addysgu plentyn trwy iaith nad yw'n ddeall. Y mae Mr. Acland, y mae'n amlwg, am roddi addysg effeithiol a rhesymol i blant Oymru. Nid fel gwleidyddwr yn unig yr edrych arnynt, gan dybio mai melldith i'r ymherodraeth ydyw eu hiaith a neillduolion eu meddwlj edrych arnynt fel gwir addysgydd, gan feddwl am eu meddyliau 0u heneidiau. Os gwnawn ni ein gwaith, bydd yr oes nesaf yn lìawer goleuach a hapusach na'n hoes ni; a bydd ein haneswyr, wedi cymeryd Owen Glyn Dŵr a William Morgan a • Gruffydd Jones a Syr Huw Owen fel cynrychiolwyr pedwar eyfnod, yn cymeryd Arthur Acland i gynrychioli cyfnod newydd. 0 hyn allan y mae plant Cymru i'w dysgu yn yr unig ffordd effeithiol,—trwy gyfrwng eu hiaith eu hun. Edryched llywodraeth- wyr ysgolion fod y plant yn cael eu haddysgu yn ol y Code ardderchog hon, er gwaethaf athraw, ac er gwaethaf arolygwr, os bydd rhaid. Ac edryched rhieni foi eu plant yn cael yr addysg hon. Cant ddysgu ceinion eu hiaith eu hunain, cant ddysgu Saesneg mewn dull haws, cant ddysgii meddwl, cant ddysgu canu alawon wrth eu bodd. Ýn barod yr wyf wedi gweled plant yn tyrru at eu gilydd yn amser chware, i ail fynd dros wersi'r ysgol, ac i ganu rhyw hen alaw. Gwnaiff Cymru'r Plant gymaint fedr i helpu'r athrawon. Yn ei rifynnau dyfodol bydd gwersi yn y Pynciau Elfennol, y