Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ttíWU ^i \L r\L r\L Cyf. II. MEHEFIN, 1893. Ehif. 18. HANES CYMRU. Llyfr II. 613—1003. VI. GRUFFYDD AB LLYWELYN. N y bennod o'r blaen gwelsoni fod Llywelyn ab Seisyll wedi marw. Cododd gorthryin- wyr a lladron eu pennau'n hyf ; a gorfod i Euffydd, mab Llywelyn, fynd ar ffo. Pan ddaeth yn ddigon cryf, daeth yn ol i Gymru, a da iawn oedd gan ei bobl weled Gruffydd ab Llywelyn. Yr oedd gan Grymru dri gelyn,—y Saeson, y cenhedloedd duon, a'r penaethiaid Cymreig gwrthryfelgar. Yr oedd y Saesou yn dod o'r tir, y cenhedloedd duon yn dod o'r môr, a'r penaethiaid dilywodraeth yng Nghymru ei hun. Grwaith bywyd Gruffydd ab Llywelyn oedd rhwystro'r Saeson anrheithio Cymru. O'i ddechreu hyd ei ddiwedd ymlid- iodd y Saeson. Yn erbyn y Saeson yr enillodd ei fuddugoliaeth fawr gyntaf, ac yn Ehyd y'Groes, ar lan yr afon Hafren, oedd hynny. Wedi gwneyd i'r Saeson droi eu cefnau fel hyn, a dianc ar ffrwst, cafodd Gruffydd lonydd am eiliad i osod trefn ar ei wlad ei hun. Ei feddwl oedd gwnej^d y penaethiaid yn ufudd iddo, trwy fodd neu anfodd; a gwneyd y eenhedloedd duon yn gyfeillion iddo. Yna, meddyliai, byddai'n ddigon cryf i herio'r Saeson. Dechreuodd trwy roddi trefn ar Gymru. Yr oedd Hywel ab Edwin yn rheoli'r De, a daeth.ef a Gruffydd gyda'u lluoedd yn erbyn eu gilydd. Ger Pen Cader, yn nyffryn Teifi, y cyfarfydd- asant; bu brwydr yno, a gwnaeth Gruffydd i Hywel ffoi o'i flaen. Tra'r oedd y Cymry'n ymladd fel hyn, yr oedd y cenhedl- oedd duon yn diffeithio Dyfed; ac, ya. lle ymladd â'u gilydd