Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<)ftíW% H&ttf. Cyf. II. MAI, 1893. Rhif. 17. HANES CYMRU. Llyfr II. 613—1063. V. LLYWELYN AB SEISYLL. R oedd Cymru mewn cyflwr gofidus tua'r flwyddyn 1000. Yr oedd y paganiaid yn dylifo dros y wlad, ac yn Uadd ac yn llosgi ymhob man. Yr oedd ymladd mawr rhwng y môr ladron hyn a'r Gwyddelod ; ac yr oedd Brian, brenin y Gwyddelod, wedi eu gorch- fygu ym mrwydr fawr Clontarf. Ond er hynny yr oedd y môr ladron paganaidd yn dod o hyd, o foroedd y gogledd, yn eu llongau hirion. Gorchfygasant Loegr ; a daeth un o honynt, sef Cnut, yn frenin ar yr holl Saeson. Ac yr oeddynt yn ymosod ar draethau Cymru, gan ladd rhyw frenin a llosgi rhyw dref o hyd. Yr oedd y Saeson yn dal i ymosod ar Gymru hefyd. Aml dro gwelwyd hwy'n rhuthro i Frycheiniog, neu Forgannwg dlos, neu Gydweli, neu Ddyfed,—ac yr oedd mẁg ac anrhaith ar eu llwybr bob amser. Ac yr oedd anrhefn ymysg y Cymry. Yr oedd meibion ac wyrion Rhodri wedi ymladd a'u güydd, ac yr oedd casineb mawr rhwng eu teuluoedd. Darniwyd Cymru, a chollodd hen deulu Rhodri bob rhan o honi. Daeth Aedan mab Blegwyryd i draws feddiannu'r orsedd; ac efe a'i bedwar mab oedd yn ceisio rheoli Cymru.