Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<)ttínwò H&ftt Cyf. II. EBRILL, 1893. Rhif. 16. HANES CYMRU. Llyfr II. 613—1063. IV. HYWEL DDA. WELSOM fod Cymru mewn trybini mawr; yr oedd y Saeson yn ymosod arni o'r tir, a'r cenhedloedd duon o'r môr. A bu Rhodri Mawr, y brenin galluog, farw. Ond gadaw- odd feibion ac wyrion ar ei ol i reoli Cymru ac i ymladd drosti. Un o'i wyrion oedd brenin Dyfed,—Hywel Dda. Yn y rhyfeloedd hir, yr oedd y gyfraith wedi mynd yn ddi rym, ac yr oedd perygl iddi fynd o gof. Yr oedd lladron a llofrudd- ion lawer yn y wlad, yr oedd arfau rhyfel yn nwylaw pawb. Yr oedd y tywysogion yn ymladd â'u gilydd, nid oedd gyfiawnder yn y wlad. A cheisiodd Hywel Dda alw meddwl y Cymry at y gyfraith. Dywed yr hanes ei fod wedi galw gwŷr doeth y genedl at eu gilydd, i'r Hen Dy Grwyn ar Daf. Ac yno galwyd yr hen gyf- reithiau i gof, a rhoddwyd hwy mewn yegrifen, wedi newid ychydig arnynt, a'u gwneyd yn fwy tebyg i'r Beibl. Yr oedd tair cyfraith yng Nghymru,—ond un oedd mewn gwirionedd,— cyfraith Gwynedd, cyfraith Dyfed, a chyfraith Gwent. Dyma fi yn rhoi ychydig o gyfraith Hywel Dda i chwi. Am sarhau'r brenin yr oedd yn rhaid talu fel hyn,—can buwch am bob cantref f eddai'r brenin, tarw gwyn a chlustiau cochion gyda phob can buwch, gwialen aur cyhyd ag ef ei hun ac mor braff a'i fys bach, llestr aur mor fawr a'i wyneb ac mor drwchus a bawd aradrwr.