Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oyf. II. MAWETH, 1893. Ehit. 15. HANES CYMRÜ. Llyfr II. 613—1063. III. BHODRI MAVB. YWEDAIS wrthych fel y bu CadwaHon farw. Ar ei ol ef daeth Gadwaladr, i gadw Cymru rhag y brenhiuoedd oedd yu ymosod arni. Oud daeth brenin mwy erchyll ua fíais nac Augl i Gymru, sef haiut. Aeth yr haint ar grwydr dros y wlad; a bu Cadwaladr, ymysg ereill, farw o hono. Wedi marw Cadwaladr, bu anrhefn mawr trwy Gymru. Collodd y Cymry goron yr ynys, medd eu banesydd, ac enillodd j Saeson hi. Yr oedd llond y wlad o filwyr, ac ni fedrent fyw ond drwy ryfela neu ysbeilio. Amser du oedd hwnnw i'r neb a hoffai heddwch. Yr oedd tywysog yn ymladd yn erbyn tywysog, yr haint yn dod ar ol rhyfel a newyn ar ol haint. Cyu hir iawn, daeth ŵyr Cadwaladr, sef Rhodri Molwynog, yu frenin ; ac ar ei ol ef daeth ei fab, Cynan Tindaethwy. Amser enbyd oedd amser y ddau frenin hyn. Ỳr oedd Saeson ac Eingl Meicia yn ymosod o hyd. Yr oedd brenin galluog wedi codi ym Mercia, o'r enw Offa. Yr oedd hwn yn elyn chwerw i'r Cymry ; aeth a llawer o'u gwlad, a diffeithiodd lawer yn y rhan adawodd iddynt. Efe aeth a'r wlad fras sydd rhwng Gwy a Hafren oddiarnom, gyda threfydd yr Amwythig fShrewsburyJ a Henffordd {HerefordJ. Cododd glawdd rhwng Cymru a'r rhan oedd ef wedi orchfygu. Y mae oliou y clawdd i'w weled eto mewn mannau. Clawdd Offa y gelwir ef, a rhedai o enau'r Ddyfrdwy i enau'r Wy. Bu brwydro ffyrnig rhwng Offa a'r Cymry, ac aml dro y diffeithiodd holl barthau'r De.