Skip to main content

\! ^rúi':x&2tCê>3^^WÊ$&ffî Iîhif. LXIII.] MAWRTH, 1867. [Cyf. VI. Y TADAU METHODISTAIDD. IX.—T PARCH. THOMAS CHARLES, BALA. Jba AB ydoedd Thomas Charles i Ttice Charles, Pant Dwfn, Llan- ,jOwl fihangel, gerllaw pentref St. Clears, tua deng milldir o dref ^êP Caeríÿrddin, a brawd i'r diweddar Barch. David Charles, Caerfyrddin. Ganwyd ef Hydref 14eg, 1755. Amaethwr oedd ei dad, a bwriadai godi Thomas i'r weinidogaeth. Rhoddwyd ef ymlaenaf mewn ysgol gyfagos, yn Llanddowror. Yno y daeth i gyfeillach âg un Rhys Hugh, un o ddysgyblion Griffith Jones, ac ymddyddanion hwnw wnaeth yr argrafnadau crefyddol cyntaf ar ei feddwl. Yr oedd yr argraífiadau hyny mor ddwys, fel y cymerodd broffes o grefydd gyda'r Methodistiaid yn blentyn, ac efe fu yn offerynol i ddwyn crefydd i mewn i'w deulu. Yn 14 oed, symudòdd i'r ysgol Ymneillduol i Gaerfyrddin, ac ymarferai â moddion crefyddol yno gyda'r frawdoliaeth yr oedd wedi cychwyn gyda hwynt. Ionawr 20fed, 1773, pan yn 17 oed, aeth i wrando Eowlands, Llangeitho, yn y Capel-newydd, yr hon a brofodd yn oedfa fythgofiadwy iädo. Dywedai i'r oedfa hono wneyd nefoedd a daear yn bethau newydd iddo o hyny ailan byth. Yn y flwyddyn 1775, pan yn 20 oed, symudodd i Eydych- ain. Trwy ymdrech y gallodd ymgynnal yno. Yn wir, bu agos iddo orfod gadael y lle oblegid diffyg cynnaliaeth; ond gofalodd Ehagluniaeth am dano trwy agor calonau cyfeillion i'w gynnorth- wyo. Derbyniodd urdd diacon (i bregethu) yn Rhydychain yn Mehefin, 1778, a threfnodd i fyned i wasanaethu fel curad yn Ngwlad-yr-Haf. Ond cyn myned yno, talodd ymweliad â chyfaül yn y Bala, y Parch. Simon Lloyd, offeiriad duwiol a chyfoethog, ond yr hwn wedi hyny a ymunodd â'r Methodistiaid. Efe oedd awdwr yr "A^nseryddiaeth" a'r "Esboniad ar Lyfi- y Dadguddiad." Aeth y ddau ar daith trwy ranau o Ogledd a Deheudir Cymru; a galwasant ar eu ffordd yn Llangeitho i wrando Rowlands. Y tro hwn cafodd Mr. Charles gyfle i bregethu yn eglwys Llanfihangel, ei blwyf genedigol, a chafodd ei dad ysbrydol, Rhys Hugh, yn gystal a'i gyfeillion a'i berthynasau, y pleser o'i wrando yn pregethu am y tro cyntaf. Dychwelodd o'r daith hon at ei guradiaeth yn Ngwlad-yr-Haf; ac ymhen rhai misoedd aeth i Rhydychain i dderbyn ei B.A., ac