Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XLVII.] TàCHWEDD, 1865. [Cyf. IV. GWEDDIO DROS ERAJLL. fR ydym yn ofni fod y gorchymyn Apostolaidd, "gweddiwch dros eich gilydd," yn cael ei esgeuluso yn fawr. Mae y ddyl- edswydd hon yn cael ei mynychu yn y Bibl, mewn esiampiau yn gystal ag mewn gorchymynion. Yr oedd Iesu Grist yn gweddio dros eraill—nid yn y cyfanswm, ond yn bersonol. " Mi a weddiais drosot," meddai wrth Pedr. Dywed Paul hefyd ei fod yntau yn gweddio dros yr holl eglwysi. Tebyg ei fod yn cymer- yd yr eglwysi bob yn un i weddio drostynt, a byddai y prif ber- sonau ymhob eglwys yn dyfod o flaen ei feddwl, fel y gallai weddio drostynt. Ac y mae yn bur debyg ei fod yn gwneyd hyn yn ol 8iampl yr Arglwydd Iesu. :#Un o ddiffygion gweddiau y dyddiau hyn yw eu bod yn rhy gyff- redinoh anmhenodoL a dibwynt Clywsom am un gweinido« oedd yn enwi personau yn ei weddâra cyhoeddus. Y mae yn bosibl niyned i eithafoedd ar bob llaw. Ond os bydd dyn yn gweddio yn gyhoeddus, dylai ef ei hun, a dylai y neb fyddo yn ei wrando, wybod am ba' beth y mae yn gweddio. Y mae rhai rhieni yn teimladau wrth fod yn rhy gyfeirioL Beth bynag, dŷlai pob rhieni fyned âg achos eu plant bob yn un ac un ger bron yr Ar-