Skip to main content

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XLI.] MAI, 1865. [Ctp. IV. GWIWER YN PLANU DERW. §AE yn ffaith hynod, meddai "Merry's Museum," ac yn un nad yw yn hysbys i'r cyffredin, fod y rhan í'wyaf o'r derw damweiniol yn cael eu planu gan wiwerod. Fel hyn, mae y crëadur bychan hwn wedi gwneyd y gwasanaeth pwysicaf i'r Uyngee Brydeinig. • Cerddai boneddwr un diwrnod trwy y coed sydd yn perthyn i'r Duc o Beaufort, yn agos i Trevhouse, yn Sir Fynwy, a thynwyd ei sylw gan wiwer yn eistedd yn hamddenol ar y ddaear. Safodd i wylio ei hysgogiadau. Yn y man neidiodd y wiwer i fyny, ac i frig y pren o dan yr hwn yr eisteddai. Y foment nesaf yr oedd wedi disgyn â mesen yn ei phen; yna dechreuodd grafu twll yn y ddaear. Wedi gwncyd y twll, gollyngodd y fesen o'i genau, a chuddiodd hi â'r pridd yr oedd wedi ei grafu, ac i fyny â hi i'r pren drachefn. Dygodd y nesaf i lawr, a gwnaeth â hi yr un modd. Daliodd wrthi cyhyd ag y daliodd amynedd y dyn i'w gwylio. Amcan y wiwer wrth guddio y mês yw, darparu tamaid iddi ei hun erbyn y gauaf. Ond tebygol nad yw yn gallu cotio am bob mesen a guddiodd, a bod rhai bob tymmor yn cael eu hanghofio a'u gadael yn y ddaear. A'r canlyniad yw i'r rhai hyn dyfu i fyny i lenwi lle yr hen goed a dorir i lawr. Fel hyn ý mae Prydain yn ddyledus, i ryw fesur, am ei mawredd masnach- ol, i ddarbodaeth, a chof drwg y wiwer.