Skip to main content

TRYSOEFA Y PLANT. Rhif. XXXVIII.] CHWEFROR, 1865. [Cyf. IV. YR ADERYN YJST YR YSTORM. fR noson oer ystormllyd yn nyfnder y gauaf, yr oeddwn yn eistedd yn fy llyfrgell, ac yn ysgrifenu nodiadau oddiwrth yr adnod hono yn Dad. iii. 8—"Wele rhoddais ger dy fron ddrws agored." Yr oedd yr ëira, y gwlaw, a'r cesair, yn curo yn y ffenestr yn drwm, a'r gwynt yn chwythu yn wylofus. Oddeutu deg o'r gloch clywn ergyd ar y ffenestr. Edrychais, ond yr oedd yn dywyll iawn, ac ni welwn ddim. Yn y man wele y gwydr eto yn cael ei daro yn gryf. Cymerais y ganwyll yn fy llaw ac edrychais, a gwehvn aderyn bychan ar gàreg y ffenestr, yn wlyb a íluddedig, a'i adenydd gwlybion yn syrthiedig am ei draed. Dyma fe eto yn codi ac yn taro yn erbyn y ffenestr un- waith ac eilwaith, fel pe buasai yn ceisio ehedeg i fy mynwes. Ofnwn y buasai yn lladd ei hun; yr oedd am dynu at y goleuni. Yr oedd am ffoi o afael yr ystorm. Yr oedd eisieu " noddfa rhag Îr dymhestl" arno. Fe allai fod yr ystorm wedi dwyn ymaith ei oches flaenorol; neu fe allai fod rhyw elyn wedi bod yn ceisio am ei fywyd. Druan o hono! yr oedd fel yn gweddio am gael dyfod i mewn, ac ni fynai ehedeg ymaith i'r nos dywell a'r yatorm. Codais y ffenestr i fyny, a neidiodd yr aderyn i mewn ar un- waith. O! y peth bach, gwlyb, diniwed, a diymgeledd! Yr oeddwn yn meddwl am Noah yn gollwng y golomen i mewn i'r