Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXXVII.] IONAWR, 1865. [Cyf. IV. ESGIDIAU NEWYDD, OHOI! (AM, 'mam, mae nhw'n niyn'd i gael ysgol wnîo i ni , a os bydd ar y plant eisieu esgidiau, mae digon i g ael dim ond myn'd at Miss Lewis bore dydd Sadwrn!' , Dyma fel y cyfarchai Catharine Morgan ei mham, wedi rhedeg allan o wynt agos o'r Ysgol Sabbothol genadol. Druan o honi! lii a allasai lawenychu wrth.y fath newydd. Nid oedd gwerth hanner coron o ddillad am dani oll. Prin yr oedd ei ffroc yn gorchuddio ei phenliniau. Ni fu esgid na hosan ar ei throed erioed, er ei bod yn awr rhwug chwech a saith oed. "Mae yr athrawes yn dyweyd y caf fi fonet a ffroc heb fod yn hir, a fy mod i gael esgidiau newydd ddydd Sadwrn nesaf." " I ba beth yr wyt ti am gael esgidiau, fy ngeneth gofynai'r fam. " I gadw fy nhraed yn gynhes," ebai Catharine, " a lle bod fy nhraed yn difwyno gwisg fy athrawes yn yr ysgol." "Weí, os cei bâr o esgidiau, da iawn," eoai'r fam. r Wythnos hir i Catharine oedd hon. Rhifai bob nos w fyned i'r gwely pa sawl noswaith oedd ganddi i gysgu wed'ync n cael esgidiau. O'r diwedd, bore dydd Sadwrn a ddaeth. Y oedd Miss Lewis yn gorphen ei brecwast pan welai Catharine yn pasio at y drẁs.