Skip to main content

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXXVI.] EHAGFYR, 1864. [Cyf. III. TAD I'E AMDDIFAD. tMAENT yn dyweyd wrthyf, John, mai plentyn amddifad ydych," meddwn un prydnawn Sabboth yn ddiweddar wrth íachgenyn hychan oedd yn edrych yn hynod o brudd. "Ië, syr," atebai yntau; "nid oes genyf un berthynas ar y ddaear yn nês na modryb." Yr oeddwn wedi galw yn nhŷ cyfaill i mi, lle yr oedd y bachgen yn aros. Yr oedd yn sefyll ar y pryd yn ymyl perth yr ardd, yn ! edrych yn brudd a myfyrgar tua chyfeiriad y fynwent oedd o'r tu arall i'r dyffryn bychan odditanodd. Gan yr edrychai mor brudd, a bod ei lygad eisoes yn llaith gan ddeigryn, peidiais holi dim yn fan- ylach yn y cyfeiriad yna, ond dywedais mor garedig ag y gallwn, ? " Gwn i am Un, John, y bydd yn dda ganddo ddyíod yn Dad o'r mwyaf tyner i chwi." Deallodd fì mewn mynyd. Yr oedd wedi ei fagu gan rieni crefyddol, ac wedi ei ddysgu yn yr Ys- grythyr Lân o'i febyd. Llanwodd ei lygaid â äagrau, ond nid atebodd ddim. Ceisiais ganddo ddyfod gyda mi i'r tŷ. Aethom i^r ystafell, cloais y drws ar ein hol, ymeflais yn ÿ Bibl, troais i'r oymthegfed bennod a deugain o Esaiah, a dechreuais ddarllen yn uchel,«' 0 deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno, 'ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch a bwytëwch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian ac heb werth." O hen eiriau bendigedig! Pa faint sydd wedi bod yn drachiio yn hel-