Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXXIV.] HYDREF, 1864. [Ctf. III. Y FATH WAREDWR! §0R sanctaidd ! " Yr H\vs ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll }rn ei enau." Am bwy arall y gellir dyweyd hyn? Yr ydym yn cael llawer yn bur ddymunol, yn hael a char- edig yn eu hymddyddanion. Y maent yn ofalus i beidio dy weyd dim yn anghyfiawn am eraill, ac yn ofalus i ymgadw rhag pob ymddangosiad twyllodrus. Y maent yn rhydd, yn agored, ac yn serchog, ac yr ydym yn eu caru; ond nis gellir dywej'd am dan- ynt yr hyn a ddy wed y Bibl am Grist. Mor addfwyn! "Yr Hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn." Am bwy y gellir dyweyd hyn ? Mor naturiol i ni, pan ddywedir rhywbeth drwg am danom, yw digio, a dyweyd geiriau cas yn ÔL Ond nid felly y gwnai Iesu Grist. Dyoddef- odd holl falais a gwaradwydd dynion, mor addfwyn, ac heb gy- maint ag un achwyniad. Cernodiasant ef, poerasant arno, taraw- sant ef â chorsen, plygasant eu gliniau iddo mewn gwawd, coronasant ef â drain, a hoeliasant ef wrth y groes. "Efe a orthrymwyd, efe a gystuddiwyd, ond nid agorodd ei enau; fel oen yT arweinid ef ì'r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a'i cneifiai, felly yntau yn fud nid agorai ei enau." A fu erioed o fathhwn? Mor amtneddgar! "Pan ddyoddefodd, ni fygythiodd." Gallasai fygwth, a chyfiawni ei fygythiad hefyd, pe buasai hyny