Skip to main content

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXXII.] AWST, 1864. [Cyp. III. PWY BYNAG A DDEL. ÄWY fuasai yn meddwl y cawsai Iesu Grist dderbyniad mor HP anghroesawgar pan ddaeth yma ar ei ymweliad o'r nefoedd? ■& Ni cldaeth yr un cenadwr erioed gyda neges mor bwysig— cynieriad mor uchel—a chariad mor fawr. Ond derbyniad oer- Uyd a gafodd. Preseb a gafodd yn lle geni. Yn ei fywyd yr oedd heb le i roi ei ben i lawr. Croesbren a gafodd i farw arno, a bedd benthyg i orwedd ynddo. Ac o hyny hyd heddyw mae tyrfa fawr o ddynion yn ei wrthod a'i gablu. Eto geiriau Crist ydynt, " Yr hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Pan ddaeth Cyrus i ryddhâu yr Iuddewon o Babilon, fe'i der- byniwyd gyda líawen fíoedd. Pan ddaeth William III. drosodd o Holland i Loegr i ryddhâu y bobl odditan ormesiaeth James II., cafodd ei dderbyn yn llawen, a'i goroni yn frenin. Pan ddaeth Garibaldi i ryddhâu yr Italiaid o dan ormes y Pab, dadseiniodd holl Italy ei glod. Ond pan ddaeth Mab Duw i lawr oddiar or- seddfainc y nefoedd, i dlodi, i warth, ac i angeu, i waredu dynion oddiwrth eu pechodau, cafodd ei ddirmygu a'i wrthod.^ Y mae yn dal i lefain ar ddynion o oes i oes, ac o genedlaeth i genedl- aeth, " Pwy bynag a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim; ac y mae yn gywilydd mawr, ac yn bechod rhyfygus, mewn dyn i ^rthod ei alwad. Pa beth sydd yn dy gadw di, ddarllenydd hynaws, heb ddyfod