Skip to main content

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXXI.] GORPHENAF, 1864. [Ctp. III. O WYTH I UN AR BYMTHEG. i ID oes yr un cyfnod pwysicach yn hanes dyn na'r blynydd- oedd o wyth i un ar bymtheg. Dywedai Arglwydd Shaftes- bury niewn cyí'arfod yn ddiweddar yn Llundain, ei fod wedi cael allan, trwy ymchwiliad personol, fod agos yr holl droseddwyr yn Llundain wedi cychwyn eu llwybrau drygionus rhwng wyth ac un ar bymtheg oed; ac mai un o ddeg a deugain o'r plant a ddygir i fyny mewn gonestrwydd a gweithgarwçh hyd ugain, sydd heb ddilyn y cyffelyb fywyd hyd ddiwedd eu hòes. Dyniunem alw sylw mwyaf difrifol rhieni at hyn, oblegid mae y ffaith hon yn llefaru yn uchel wrthynt, ac yn dangos pwysigrwydd dirfawr eu cyfrifoldeb. Dylai pob plentyn dan un ar bymtheg oed fod dan lywodraeth hollol ei rieni. Yr ydym yn clywed tad a mam yn fynych yn cwyno fod y mab neu y ferch o'r oedran yma yn gwrthod gwneyd hyn, yn pallu gwneyd y neth arall, ac yn mynu gwneyd fel a'r fel, yn groes i ewyllys eu rhienL Ond y mae hyny ar unwaith yn profi fod diffyg pwysig yn y llywodraeth deuluaidä. Nid oes yr un plentyn o gant a ddeil yn gyndyn i anufuddhâu i gais pwyllog a thaer ei rieni, heb iddynt hwy cyn hyny oddef iddo yn hir i sathru eu hawdurdod dan ei draed. Nid oes yr'un tad na mam a ŵyr y canlyniad o oddef i'w plentyn fỳnu £ ffordd am unwaith yn groes i'w hewyllys hwynt. Gallai na fydd ond peth bychan dibwys—eisieu cael ei fwýd mewn dysgi