Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSOEFA Y PLANT. Rhif. XXIX.] MAI, 1864. [Crr. III. "I RODDI GOLEUNI, AC I ACHUB BYWYDAU." MYMA y geiriau sydd mewn llythyrenau eglur ar Oleudý W gwerthfawr Eddystone. Mae y goleudŷ hwn wedi ei godi ar u ddarn o graig yn y môr, yn y porth sydd yn gollwng o'r British Channel i gefnfor mawr yr Atlantig. Mae yn un o'r goleudai hynaf a feddwn—wedi ei orphen oddiar 1759—felly yn gant a phum' mlwydd oed. Y mae yn 68 o droedfeddi o uchder, ac yn 26 o drawsfesur yn y gwaelod. Mae y tònau cynddeiriog Wedi bod yn curo arno am ganrif gyfan, y gwlawogydd, y gwynt- oedd, a'r ystormydd wedi bod yn rhuthro ar ei draws, gyda chyn- ddaredd annesgrifiadwy; ond yno y mae yn sefyll yn ddiysgog hyd yr awr hon, dan wasgar ei oleuni gwerthfawr i arwain a lloni y morwr yn nhywyllwch caddugol y nos. Ei oleuni ef yw y peth cyntaf y tery ei lygad arno wrth ddychwelyd adref o'i fordaith ûh-bell, a'r peth olaf a wêl wrth suddo tu cefn i'r tònau yh y gor- Wel draw, â'i gefn ar ei wlad a'i gyfeillion. Yn agos i'w waelod, jiel y dywedasom, mae y geiriau tarawiadol sydd uwch ben yr [ysgrif hon,—" / roddi goleuni, ac i achub bywydau." Mae yr Arglwydd wedi bwriadu pob dyn i bwrpas tebyg i'r hyn mae dynion yn codi y goleudŷ, sef i roddi goleuni, ac i achub 'ywydau. Goleuadau Crist yw Cristionogion. "Chwiywgoleuni oyd," meddai Crist ei hun. Ac meddai Paul wrth Gnstionogion uippi, "Ymysg y rhai yr ydych yn llewyrchu fel goleuadau