Skip to main content

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXVI.] CHWEFROR, 1864. [Ctf. III. "NID WETHYM NI Y MAE'N SIARAD." tEFNYDDIWYD y geiriau uchod, un bore Sabbath, gan fachgen hach pur ddeallus, wrth ei dad, o dan yr amgylch- iadau canlynol. Yr oedd Mr. Rees yn pregethu, ac yn preg- ethu yn ei ddull goreu. Teimlai y tad yn ddwys iawn o dan y bregeth. Dygwyddodd iddo droi i edrych ar ei fab bychan ag oedd wrth ei yniyl yn y sêt, gan ddysgwyl y buasai yntau yn teimlo rhyw gymaint oddiwrth ddull bywiog y pregethwr, os nad oedd yn deall ei bethau. I'w fawr syndod, canfu y bachgen yn edrych yn ddigon didaro, yn troi tu dalenau y llyfr hymnau, ac yn chwilio am dônau ar eu cyfer. Gofynodd yn lled sarug i'r plentyn, "Pam na wrandewi di ar Mr. Rees?" Yr ateb ydoedd, "Nid wrthym ni (hyny yw, ni y plant) y mae yn siarad." Pan adroddwyd yr amgylchiad wrthyf gyntaf, tarawyd fi ar unwaith gan wirionedd atebiad y bachgen, er nad oedd hyny mewn un modd yn cyfiawnhâu ei ddifaterwch. Y Sabbath canlynol dygwyddodd i mi edrych o'm cwmpas yn ystod y bregeth mewn capel mawr yn y dref hon. Cyfrifais fod tuag un ran o chwech o*r gynnulleidfa yn blant, ac edrychais i weled sut yr oeddent yn gwrando. Er fy mawr syndod, canfyddais fod rhai ỳn dystaw siarad â'u gilydd, rhai yn hanner cysgu, rhai yn darllen y Uyfrau hymnau neu y Bibl, rhai yn yspio ar y llyfr mtes yn y