Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. 169 Y PARCH. R. H. MORGAN, M.A. |AE yn chwith iawn genym golli y Parch. Richard Humphreys Morgan, yn nghanol ei ddyddiau, ac yn nghanol ei waith. Er ei fod wedi gwneyd gwasan- aeth mawr, tybiem fod ganddo lawer mwy i'w wneyd cyn gadael y ddaear. Ond y tebyg yw fod gan ei Arglwydd waith yn ei aros mewn lle uwch. Mab ydoedd i'r diweddar Barch. Edward Morgan, Dyffryn. Yr oedd ei fam yn ferch i'r Parch. Richard Humphreys, DyfFryn. Felly, yr oedd yn hanu o'r ddwy ochr o dadau ag y mae Sir Feirionydd, a Chymru oll, yn dra dyledus iddynt. Ganed y Parch. R. H. Morgan yn Lluesty, ger y Dyffryn, Awit G0BPHEÎfA7, 1699.