Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

218 TBY80BFA f PLÁNT. daeth yr amser i Jack gyflawni mesur ei anwiredd. Bhyw noswaith dychweJodd adref yn feddw ar ei anifail, ac i mewn i'r tŷ ar gefn ei geffyl. Curodd ac anmharchodd bawb o fewn y tỳ, ac yn enwedig y lleiaf a'r mwyaf diamddiffyn o bawb yno, sef fy nhad. Clywodd ei ewythr William, brawd ei dad, yr hwn nid oedd yn byw yn nebpell oddiyno, am y gurfa resynus a gawsai y bychan gan ei lysdad creulawn, a chymer- odd ffon onen, wedi sychu yn dda, ac aeth i gyfarfod Jack, ac a'i eyfarchodd yn y modd hyn, " Tydi, Jack, aiê, sydd wedi dyfod yma i ben eiddo fy mrawd, ac yn parhau i anmharchu a llabyddio y bychan diniwed a diamddifíyn sydd â'i dad yn pydru yn y bedd." A chyda hyny gosododd ei ffon onen ar ei gefn ac ar draws ei ysgwyddau gydag arddeliad mawr, nes yr oedd yn gwaeddi, rhegu, a bygunad fel eidion o dan y driniaeth, a gorfu arno fyned ar ei lw yn y man hwnw na osodai law ar y llanc byth mwyach, onidê cawsai hi yn waeth, a bu gorfod arno gadw at ei ymrwymiad o hyDy allan. Brwnt er hyny ac angharedig yr ymddygodd at fy nhad trwy y blynyddoedd, er na feiddiai ei guro rhag ofn ei ewythr William. Ni anghofiodd plant fy nhad hiliogaeth William ymhen blynyddoedd lawer ar ol hyn, am garedigrwydd eu tad. Un mab i William oedd y Parch. Evan Davies, Cenadwr Uwyddiannus yn China am flynyddoedd lawer. Bu farw yn Llundain tua'r flwyddyn 1875. Pan oedd fy nhad tua 14 oed, gwawriodd arno ddydd o ymwared. Cymerwyd ef gan ei daid, Dafydd Siôn Lystan, yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd. o wneyd hetiau (hat manufacturer), ac felly ei frawd William. Gellir dywedyd am y ddau frawd eu bod yn annhebyg iawn i'w gilydd mewn llawer o bethau, er na fu dau frawd erioed yn anwylach o'u gilydd. Daeth y ddau at grefydd yn foreu, ac yr oedd y ddau yn ddarllenwyr mawr. Yr oedd fy nhad o natur siriol, ysgafn, llawen, ond fy ewythr o duedd ddifrifol a dwys-fyfyrgar. Byddai rhai pobl yn galw fy nhad yn seraph, o herwydd gwres- ogrwydd ei ysbryd yn yr hwyliau diwygiadol. Gwelais ef laweroedd o weithiau ar lawr yr hen ysgoldỳ yn Bethel yn neidio yn ol dull yr hen bobl, gyda sain cân a moliant, gyda Siân Ty'nrhyd ac eraill sydd wedi cyrhaedd gwlad y gwynfyd pur er's llawer o flynyddoedd bellach. Ond galwent fy ewythr yn gerub, am mai golwg sobr, oer a myfyrgar a fyddai arno bob amser, ac ni welid ef yn colli deigryn beth bynag a fyddai yn bod. Ond yr oedd fy nhad â'i ddagrau yn ffrydio pan y byddai yr efengyl yn cael ei phregethu gyda Uewyrch a gogon- iant. Bu diwygiad nerthol anghyffredin yn y wlad pan oedd ef rhwng 16 a 18 oed. Ond ni ymunodd ef â chrefydd yn amser y diwygiad, ond daeth yn fuan ar ol hyn, fel y sylwai " Siani Siôn Joel" ei fod fel yr apostol Paul yn dyfod i fewn ar ol y