Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhi». cxxix.j MEDI, 1872. [Crr. XL Y MYNEGBOST. MAE yn dda genyf—dyma y mynegbost!" meddai y dyn oedd yn teithio ffordd. ddyeithr, lle yr oedd amryw groes-ffyrdd. Neidiodd i lawr oddiwrth ei wraig o'r cerbyd, ac aeth yn ei flaen at y post i wneyd allan y llythyrenau treuliedig oedd ar yr astell. A phan ddeallodd ei fod ar y ffordd uniawn, mor llawen ydoedd! Un ar ei daith wyt tithau, ddarllenydd, acyn myned bob dydd ar hyd ffordd na thramwyaist o'r blaen. Y mae croesffyrdd lawer, a rheiny yn arwain i leoedd peryglus, at byllau dyfnion, a chlogwyni serth, 11 e mae miloedd wedi colli eu bywyd.