Skip to main content

Rhif. CXXVI.J MEHEFIN, 1872. [Ctp. XX COLOFN TRAJAN, YN RHÜFAIN". jN o'r colofnau ardderchocaf yn Rhuf- ain, ac yn y byd heddyw, ydyw Colofn Trajan, yr hon y mae darlun o honi o flaen ííygaid y darllenydd. Gwelir yma hefyd ddarnau o golofnau Forum Trajan, sydd wedi ei dadguddio yn ddiweddar, ynihen yr hon y mae y golofn wedi ei chodi. Milwr galluog oedd Trajan, genedigol o Seville, Spain, yr hwn a aned yn y fl. 52. Canlynodd Ner\ra i'r orsedd Ymherodrol yn 98, a bu farw wrth ddychwelyd o ddarostwng Syria, yn Selinus (Cilicia), Awst, 117. Codwyd y gol- ofn hon iddo gan y senedd a'r bobl yn 114, yr lion a ystyrir yn gampwaith penaf y penadeil- adydd enwog, Apollodorus. Y mae y golofn yn llawn o geríìadau o'r nrwyaf celfydd, yn dangos brwydrau a buddugoíiaethau Trajan ar y Daciaid; ác y maent yn un darlun cylch- og, yn cyrhaedd o'r gwaelod i'r top. Y mae darluniau dros ddwy fil a phum' cant o ddyn- ion arni; heblaw hyny, mae y golofn yn cyn- nwys 34 o ddarnau marmor, ac yn mesur 132 o droedfeddi o uchder. GelHr dringo i'w phen trwy risiau cylchog o fewn, y rhai ydynt yn 182 o nifer. Ar y cyntaf, yr oedd delw o'r ymherawdwr ar ben y golofn; ond yn awr, delw o Pedr, o waith Porta, sydd ar ei phen. Yr oedd bryd Trajan ar ryfela; éto dygodd ymlaen lawer o welliadau cartrefol yn ei ly w- oclraeth. Bu erlid ar y Cristionogion hefyd dan ei lywodraeth ef, er nad oedd mor greulawn ag a fu dan deyrnasiad ymherawdwyr eraill. mzm