Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhip. CXV.J GORPHENAF, 1871. [Ctp. X. V0e>- GWR DUW WEDI EI LADD. 'AE llawer o lianesion hynod iawn yn y Bibl, a byddai yn dda iawn genym allu tỳnu mwy o sylw ein darllenwyr ieuainc atynt. Pa faint o honynt sydd yn cofio hanes y prophwyd laddwyd gan lew wrth ddyfod o Bethel, wedi bod yno ar neges bwysig dr'os Dduw? Mae yn hanes tarawiadol iawn, ac i'w gweled yn 1 Bren. xiii. Darllenwch y bennod drosodd, ac yr ydyin yn o sicr y byddwch wedi eich sỳnu gan yr han.es. Tref ydoedd Bethel ryw wyth neu ddeg milldir i'r gogledd o Jer- usalem. Luz oedd enw cyntaf y lle. Yno y bu Jacob yn'cysgu ar y maes, a'i ben ar obenydd càreg, Ue y cafodd ei freuddwyd hynod, p ysgol o'r nefoedd i'r ddaear, a Duw ar ei phen, a'r angelion ar üyd-ddi. Yno y dywedodd, "Nid oes yma ond tŷ i Dduw;" a Tŷ Ddìiw, neu Bethel, y galwyd y lle mwy. Yn y lle hwn hefyd y gosododd Jeroboam, brenin annuwiol Israel, y ílô aur i fyny, i íagu eilunaddoliaeth yn Israel. Anfonodd yr Arglwydd un diwrnod ei brophwyd o Judah i Bethel, i brophwydo yn erbyn