Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TtymtU $ fflattt "PWY WYR NAD TW DENG MIL O ENEIDIAÜ ANFARWOL YN TROI AR ADDYSGIAD plentyn.-'—Esgob Beceridge. Rhif. XCVII.] IONAWR, 1870. [Ctf. JX. GEFEILLIAID SIAM. 5N o brif ryfeddodau yr oes yw y gefeilliaid hyn, a adna- byddir wrth yr enw Siamese Twins. Cawsom yr hyfryd- wch o'u gweled yn ddiweddar, siarad cryn lawer â hwy, a theimlo y darn cnawd sydd yn eu cydio wrth eu gilydd, ac yr ydym wedi Uwyddo i gael darlun cywir o honynt wedi ei gerfio yn henodol i Drysorfa y Plant. Y mae genym ychydig o hanes dyddorol i'w roddi am danynt i'n darllenwyr. Eu henw- au yw Chang ac Eng; ysgrifenodd un o honynt eu henwau i ni ar garden fechan; gosodai y garden i orphwys ar fynwes y llall tra yr oedd yn ysgrifenu. Ganwyd hwy yn Siam, y parth pellaf o India, yn y íiwyddyn 1811; felly y maent yn awr yn 58ain mlwydd oea. Chinëad oedd eu tad; ymfudodd i Siam, a phr'iod- odd un o frodonon y wlad hono. Ganwyd pedwar o hlânt iddynt cyn geni yr efeilliaid, a thri wedi hyny—oll yn naw. Bu eu tad