Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYüORFA Y PLANT. 29 BRODOR 0 CAUCASUS. ?HES o fynyddau uchel, yn cael eu tori gan lechweddau a dyffrynoedd, rhwng y Môr Du a Mor Caspia, yw y Cau- casns, a gelwir y trigolion fynychaf yn Circasiaid. Mae y parthau mynyddig ac anghysbell yma yn cael eu pres- wylio gan amrywiol lwythau, ac y mae rhai o'r Uwythau yn Gristionogion mewn enw, ond fod eu Cristionogaeth wedi dirywio i ddwfn Baganiaeth. Mae y llwythau eraill yn Fahometaniaid penboeth. Hen elynion Rwssia ydyw y llwythau hyn. Dynion creulawn iawn ydynt, a chlywsom lawer am eu creulondeb yn ystod y rhyfel diweddar rhwng Rwssia a Thwrci. Mae y dyffryn- oedd yn gynnyrchiol iawn, ond ychydig o amaethyddiaeth sydd yno, ac y mae y trigolion gan mwyaf yn^byw ar fagu anifeiliaid ac ar helwriaeth. . Chwepror, 1879. B