Skip to main content

TRYSORFA Y PLANT. Rhip. XXIV.] RHAGFYR, 1863. [Cyf. II. FI A 'NGHEFFYL. §ID wyf yn meddwl fod un dyn o alluoedd cyffredin yn abl dychymygu ar ba beth y mae y papyr yr wyf yn ysgrifenu arno yn awr yn gorwedd. Yr wyf yn eistedd ar breseb (manger), mewn ystabl oleu a thaclus, ac y mae fy nalen wedi ei lledu ar y dam gwastad sydd ar wyneb y ceffyl, rhwng y ddau lygad. Ni feddyhech, heb i chwi wneyd prawf, y fath ddesc rag- orol at ysgrifenu mae pen y ceffyl yn ffurfio, wrth i chwi roi llyfr teneu o dan y ddalen. Wrth eistedd ar ymyl y manger, y mae yn ateb yr uchder mor dda. Bydd ei enau, mae'n wir, yn agos iawn i'ch penliniau, fel na byddai yr anturiaeth yn ddiogel gyda cheffyl na byddai genych ymddrried ynddo. Ond, am danat ti, Old Boy (enw y ceffyl), ni wnei di gnoi dy feistr. Yr wyt wedi derbyn gormod o foron (carrots) ganddo; wedi bwyta gormod ö dafeílau o fara oddiar dòr ei law. ^ Yr wyf yn aros fan yma hyd nes dychwelo fy ngwas o'i neges; a phaham y rhaid i mi wario pum' mynyd yn ofer? Nid yw bywyd yn rhyw faith iawn, ac nid yw y mynydau y gall dyn ysgrifenu yndäynt gyda rhwyddineb a phleser yn dyfod yn fyn- ych. Ac fe allai y cyfrana newydd-deb y lle yr wyf yn ysgrifenu arno dipyn o fywyd i'm llinellau. Yr wyt yn dal dy ben yn llon^- ydd iawn, Old Boy. 0 bob tu i'r ddalen yr wyf yn gweled llygad