Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXIII.] TACITWEDD, 1863. [Ctf. II. BRASLUNIAU. RHIF V. f AE gwrthddrych y braslun hwn eto yn rhês flaenaf gweinid- * ogion y Methodistiaid o ran dylanwad ac oedran. Ceir ef yn . front y Gymanfa, pa un bynag ai yn y Dê neu yn y Gogledd y byddo. Mae yntau wedi dal ei nerth a'i boblogrwydd am flynyddau meithion, ac mor boblogaidd heddyw ag y bu erioéd. Goddefir i ambell un gael cadw y lle uchel a ennillodd unwaith ar gyfrif yr hyn a fu yn y dyddiau gynt, neu oddiar barchedigaeth* i henaint, tra y mae galluoedd a llafur eraill yn eu cynnal yn eu Uawn nerth hyd drothwy y bedd, ac yn gwneyd y cyfryw oddef- iad yn afreidiol. O'r olaf y mae y gŵr anwyl hwn. Dyn o drwch a thaldra cyffredin ydyw, pen mawr, gwyneb es- gyrnog ac o wedd dywell, aeliau trymion, a Ûygaid duon yn llechu yu ddwfh odditanynt Mae ei wedd yn feddylgar a difrifoL Bydd yn esgeulus am ymddangosiad y dyn oddiaìlan, a symud- ladau hwnw yn fynych neb lawer o ras arnynt. Ond y mae rhyw fawredd hynod yn nhrem y dyn; nid cymaint mewn un rhan ar ei phen ei hun, ond yn nghyfarfyddiad y cwbl. Mae edrych ^o yn cynnyrchu dychymyg am rai o hen brophwydi IsraeL ac ana EHas neu EHsëus yn fwy na neb arall. Mae ei wedd yn dan- %d a difrifol, a rhyw gysgodion o amgylch y llygaid yn gwneyd