Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRFSORFA Y PLANT. Rhip. XX.l AWST, 1863. [Cyp. II. PREGETH I FAMAÜ. TALFYEIAD O TODD. "Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef."—Ioan xix. 25. fAHAM y mae y fath gariad wedi ei osod yn mynwes y fam at ei phlentyn, nas gall un iaith ei ddesgrifio? Gwelsoch y plentyn yn marw, a chlywsoch alarnadau y tad. Mae wylo- fain Dafÿdd uwch ben ei fab yn para i swnio yn eich clustiau hyd heddy w; ond y mae trallod y fam yn rhy ddwfn i wylofain. Nî chlywir ei llais hi ar y cyfryw amgylehiad. Nid yw natur wedi rhoddi moddion a all drosglwyddo ing ei thrallod hi. Paham y crëodd Duw y fath gariad yn ei chalon ì Ceisiaf ateb ỳ cwestiwn i chwL Am mai iddi hi, ymlaenaf, y mae yn cyflwyno y trysor sydd yn rhy werthfawr i'w yinddiried ond#i ofal cariad nas gellir ei fesur. Beth a wna wrth roddi plentyn i ofal y fam ? Ỳ mae wedi gwneyd crëadigaeth newydd ; mae wedi crëu meddwl sydd i fyíÿrio, i deimlo, i íÿw, i dyiu, ac ëangu byth bythoedd! meddwl sydd i actio ar feddyliau eraill, a dylanwadu ar eu tynghed am dragywyddoldeb; meddwl sydd i dderbyn'èi lonaid o wynfÿd neu wae, ac i dywadlt gwyufyd neu wae ar feddyliau eraill,yn oesoesoedd. Gosodir ysbryd newj^dd dan ofal y fam yna, sydd yn rhwym o linellu ei lwybr ymlaen yn ----------■——--------.---------------------■---;----------- —