Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XT.] MAWRTH, 1863. [Cyp. II. PREGETHAÜ I' E PLANT. RHIF I. " Cofiwch wraig Lot."—Luc xvii. 32. tYMA un o'r adnodau cyntaf y mae miloedd plant yr Ysgolion Sabbothol yn ddysgu ac yn adrodd. Pan oedd plentyn yn o ddiweddar mewn cyfarfod plant yn dyweyd nad oedd ganddo yr un adnod, " Fachgen!" ebai y nesaf ato, mewn syndod, "wydd- ost ti ddim o 'Cofiwch wraig Lot?'" "Gwn hono o'r goreu," oedd yr ateb. Y mae agos bob plentyn yn gwybod hono, er mai ' ychydig, fe allai, sydd yn meddwl am ei hystyr. Yr ydym yn | cymeryd yr adnod fechan hon yn destun y bregeth gyntaf i'r ! plant. Gallai fod llawer o'r plant heb feddwl pam y cymerir ad- i üod o'r Bibl, bob amser, i bregethu arni. Un rheswni yw, am ' fod y Bibl yn air Duw, a phob peth sydd ynddo yn wirionedd a saif byth. Rheswm arall yw, fod y pregethwr am egluro rhyw wirionedd fyddo yn yr adnod a gymera yn destun, neu dynu addysg oddiwrthi. Carem i chwi, y plant, ddal bob amser, wrth ^rando pregethau, ar y cysylltiad fyddo rhwng y bregeth ac adnod neu adnodau y testun. Yn y cyífredin bydd pnf bethau yr adnod ya cael eu henwi ar wahan gan y pregethwr, a gelwir hwy yn benau; rhaid i chwi ddal eylw arbenig ar j rhei'ny, onide nis