Skip to main content

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XII.] RHAGFYE, 1862. [Ctf. I. Y MORWR BACH A'I FIBL. fpM AB i wraig weddw dlawd oedd y morwr bach hwn. Yr oedd wedi ei fagu yn yr Ysgol Sabbothol, wedi bod yn wrth- "^ ddrych cynghorion, gweddiau, a dagrau mam dduwiol, a chodai i fyny yn fachgenyn tra gobeithiol. Yr oedd wedi dyfod yn awr yn abl gweithio ychydig ; ond methai gael gwaith yn un man. "'Mam," meddai un diwrnod, "rhaid i ni beidio newynu fan yma ; gadewch i mi fyned i'r môr i weled a allaf ennill tipyn o fywioliaeth i chwi a minnau." " Mae arnaf ofh y môr, fy machgen i," ebai'r fam ; " byddai yn ddigon anhawdd i mi ymadael â thi, i fyned i unlle ; ond mae myned i'r môr yn waeth na'r cwbl." "Mae Duw ar y môr fel ar y tir, 'mam," cbai John, "a bydd ef yn sicr o ofalu am danaf." O'r diwedd, fel rhwng bodd ac anfodd, gadawodd y fam ef i fyned tua'r porthladd i edrych am le. Wedi cerdded a chwilio Uawer, gwelai gadben llong yn dyfod ymlaen; aeth i'w gyfarfod, a gofynodd,— " A oes dim eisieu bachgen arnoch chwi, syr ?" " Chwilio am fachgen ydwyf," ebai'r cadben. " A gymerwch chwi fi, ynte ?" gofynai y llanc yn bryderus. " Pa le mae eich caritor ?" ebai'r cadben.