Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. Ehif. VII.] GORPHENAF, 1862. [Ctf. I. Y FFOEDD I DDARLLEN Y BIBL. ^jf DDEALL y Bibl yn dda, rhaid i chwi ei ddarllen yn iawn. qH Nid oes un llyfr wedi cael cymaint o gani wrth ei ddarllen " a'r Bibl; ac y mae y llwybr cyflredin a arferir gan Gristion- ugion gyda byn yn dra anfanteisiol a diamcan. Darllen pennod fan yma, a phennod fan arall; ychydig o'r Testament Newydd un diwrnod, ac o'r Hen Destament ddiwrnod arall; y llyfr hwn yn awr, a'r llyfr arall y tro nesaf, heb drefn, amcan, na chysylltiad yn y byd. Mae yn anhawdd iawn cael golwg ar amcan y Bibl fel hyn, na syniad clir am ei wirionedd mawr. Nid yw y meddwl yn cael chwareu teg i weled nac adnabod Iesu Grist, gwrthddrych mawi' y Bibl, nac yn cael y fantais a ddylai i adnabod a charu Duw y BibL Beth pe darllenai dyn " Daith y Pererin," " Uncle TowJs Cabin," neu unrhyw lyfr arall, fel y darllenir y Bibl yn gyffredin ? Mae yn sicr na ch'ai John Bunyan na Mrs. Stowe y clod a arferir roddi iddynt gan y byd. Ni ddeailid i ba le y ceisiai y " Pererin" fyn- ed, na pha beth fu ei dynghed; ac ni ddeallid ychwaith i ba ddy- ben yr ysgrifenasid " üncle Tom." Yr ydym am i'n darllenwyr ieuainc ymgymeryd â llwybr rhag- orach i ddarllen y Bibl—ei ddarllen yn debyg i'r modd y darllenir llyfrau yn gyfiredin. Darllenwch lyfrau yr Hen Destament yn rheolaidd, yn ol amser eu'hysgrifeniad. Darllenwch yr Efengyl-