Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. 309 Y PARCH. JOHÎs" ROBERTS, TAIHEN. MAE'R gwr y ceir darlun o hono uchod yn byw yn y lle y ganed ac y maged ef, a'r lle hefyd y ganed ac v maged ei dad. Bu Williani Roberts, o'r Taihen, yn adnabyddus ym Mon am hanner can' mlynedd fel un o'r blaenor- iaid Methodistaidd mwyaf amlwg a chj'meradwy; ac y mae Taihen bellach wedi aros yn dderbynfa groesawgar i bregeth- wyr am yn agos i gan mlynedd. Gellir tybied mai cym- deithas pregethwyr yn ei gartref fu'n achos i'r mab, Mt. John Roberts, roddi ei fryd ar y weinidogaeth. Er mwyn ymbaratoi at fyned i'r Athrofa, aeth am flwyddyn at y diweddar Ddr. Hughes i ysgol a gedwid ganddo yn Llan- nerchymedd, ac oddiyno am dair blynedd i'r Bala. Rhagfyr, 19") i