Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. 253 Y DIWEDDAR BARCH. D. CHARLES DAVIES. |AE y diweddar Barch. David Charles Davies, M.A., Prifathraw Coleg Trefeca, wedi marw er Medi, 2ô, 1891. Ganed ef yn Aberystwyth, Mai 11, 1826; felly hyd ei oes oedd 65 mlwydd. Ysgrifenwyd y braslun canlynol o hono, heb roddi ei enw, yn adeg Cymdeithasfa Aberystwyth, yn Chwef- ror 1864—fwy na 37 o fiynyddcedd yn ol, a chyhoeddwyd ef, yn nghyd a brasluniau eraill, yn y Traethodydd am y flwy- ddyn hono. Credwn y bydd vn dda gan lawer ei ddarllen. Hwn yw yr hysbysiad cyntaf pwy oedd gwrthrych y darlun. DaCw un dyn bychan pengrwn yn sefyll i fyny. Nid yw ei ddyn oddiallan cnd ysgafn ac eiddil, ond y mae ei ddyn oddimewn yn gawr nertho], ac y mae gan yr olaf fwy o ran yn nghyfansoddiad y pregethwr na'r blaenaf. Mae ganddo Hydbef, 1901.