Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA Y PLANT. 169 Y PARCH. ROBERT SALMON, LLANSADWRN. MAE yn bleser genym gyflwyno darlun o'r Parch. Robert Salmon i ddarllenwyr ieuainc Trtsorfa t Plant, Cadeirydd diweddar Gynideithasfa y Deheu- dir; a rhaid rhoddi braslun byr o'i hanes. Ganed ef yn ngodreu Sir Gaerfyrddin, yn 1841, felly y mae yn awr yn 60 oed. Mae yn frodor o'r un rhanbarth a'r enwogion, Charles o'r Bala, Cftarles Caerfyrddin, Peter Williams, ac eraHl. Enwau ei rieni oedd John ac Elizabeth Salmon. Aelodau oeddent hwy gyda'r Annibynwyr yn Rhydyceisiaid. Yr oedd iddynt wyth o blant, y rhai a godwyd oll gyda'r Annibynwyr. Ond trodd dau o honynt wedi tyfu i fyny at y Methodistiaid; a daeth y ddau, y gwr sydd a'i ddar- lun uchod, a Thomas Salmon Maesteg, tad y Parch. B. Salmcn, Gilfach-goch, yn weinidogion yn y Cyfundeb. GoBrHENAF, 190Í.