Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"PWY WYR NAD YW DENG MIL O ENEIDIAU ANFARWOL TX TKOI AE ADDY8GIAD plenttn.'—Esgot üeueridge. Rhtf. XCI.] GORPHENAF, 1869. [Cyp. VIII. AELODAU SENEDDOL CYMRTJ. II.—HENBY RICHABD. LB ydyw Henry Richard i'r diweddar Barchedig Ebenezer Richard, Tre^aron,—enw anwyl a bythgofiadwy yn Nghyfundeb y Methodistiaid, ac yn nghoffadwriaeth yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Ganwyd Henry yn Nhregaron, yn Sir Aberteifi, Ebrill 3ydd, 1812. Pl«ntyn o dy- mher wylaidd ydoedd, a byddai cysgod ei frawd hynach yn noddfa iddo rhag bygythion ac ymosodiadau plant yr ardal. Efe oedd tegan y teulu, am ei fod o dymher mor addfwyn, a'i fed yn talu cymaint o sylw mor ieuanc i bob amgylchiad, a bod ganddo gymaint o ddawn i ddifyru pawb o'i amgylch er yn blentyn. Yr oedd, pan yn llanc, yn hoff iawn o brydyddu, a gwnelai rigwm