Skip to main content

Cyfbbb II.—Rhif. LK—Medi, 1882. CYFATLL • YR • AELWYD: SILYANO, Neu DDIALEDD YR ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y iYcw/ aì/ oreu yn Eisteddfod Geiiedlaethol, 1881.) Gan W. G. Williams (Glynfab), Clydach Vale. Penod XXIII.—Rhufain. N nyddiau boreuol Rhufain, arfer pob maeslywydd wedi goresgyn gwlad new- ydd, ydoedd dychwelyd i r brif-ddinas i dderbyn dathliad o anrhydedd. Felly Suetoniua a ganlynodd ddull ei flaenoriaid, ac ar ol rhoddi yr i rgyd angeuol hwn i'r Iceniaid, a aeth yn nghyd a'i filwyr ar fwrdd ei lynges, gan hwylio tua Rhufain. Tra y bydd efe ar ei fordaith awn i hêl hanes Silvano wedi iddo gael ei godi o'r darn llong. Fel yr hyspyswyd, llawen ydoedd teimladau Comius, pan ganfu ei hun yn offeryn i achub ei ■ gyfaill mynwesol, a threuliwyd yr amser trwy roddi o Silvano hanea ei yrfa wedi y noson olaf a gafodd o gwmni Comius yn ngharchardy digysur Camulodunum. Cyrhaeddwyd Rhufain, ac aeth y ddau i gartref Comius. Wedi bod o honynt yn Rhufain am ysbaid, torwyd ar eu heddwch gan ddyfodiad y newydd- ion am lwyr orchfygiad yr Iceniaid, gan y gallu Rhufeinig o dan Suetonius, ac hefyd fod Sue- tonius ar ei fordaith gartref. Taenodd y newyddion rhyw fôr o lawenydd drwy ystrydocdd y ddinas, ac yr oedd pawb ar ea huchelfanau—na nid pawb. Yr oedd yr hanes wedi treiddio, megys picell i galonau dau o'r trigolion, a'r ddau hyny ydoedd Silvano a Comius. "Dyma ddiwedd ar ein trefniadau," ebe Silvano wrth Comius tra'n rhodio ar hyd un o'r heolydd cysgodol ar foreu teg. " Dyma ein castelloedd, a godwyd (yn yr awyr mae n wir) ar syrthio yn 8arn." " Nid felly yn hollol," ebe Comius, " nid ydyw pob hauesyn i w gredu, aroswn hyd ddychweliad Suetonius cyn anobeithio." " Ofnwyf ei fod yn rhy wir, Comius, canys yr oedd parotoadau i ryfel yn cael eu gwneyd pan ymadewais, ac os gorchfygwyd yr Iceniaid, ni ddiangodd un enaid o honynt." "'Rwyf yn hynach na thi Silvano, ac felly gwrando. Os eu lladdwyd oll, nid oedd hyny ond y milwyr ; ac ni fydd Eurfron a Rhianon yn mhlith y lladdedigion. Bydd y ddwy o flaen dy lygaid ar fyr, canys nid oes aur yno, a chan hyny caethion yn unig & ddug y maeslywydd, a bydd ein cariadau yn eu plith i'w gwerthu." " Comius, ni bydd hyny ond helaethu y clwyf sydd wedi ei agor yn fy mynwes. Byddai braidd yn well genyf glywed am ei marwolaeth na'i gweled yn rhodio ystrydoedd Rhufain mewn cyffion." " Gelli ei phrynu." " Bydd yr un mor hawdd i mi brynu Rhufain, canys nid oes genyf arian." "Na fydded i ti, Silvano, roddi ffordd i'th deimladau fel hyna, gwn dy fod yn caru Eurfron, yr wyf fìnau yn addoli Rhianon. Cymer gysui ; nafydded i ti redeg i gyfarfod a thrallodion, canys digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun. Eto, yr wyf yn dywedyd, os daw Eurfron a Rhianon, fel yr wyf yn barnu, cyfìwynaf hi i ti, a byddaf fínau yn atebol am hyny." " Dychwelwn gartref, nid da aros ychwaneg i fyfyrio ar y dyíodol, a thrwy hyny anmhuro cwpan y presenol," ac ar hyn aethant tna chyí'- eiriad eu harosfan. * • * * * Mae yn ddiwrnod hyfryd a dymunol! Rhuf- ain fawr wedi ei haddurno i'r man eilhaf, a'r trigolion yn ymwau drwy yr ystrydoedd yn nwyfus a llon. Beth sydd yn bod ì Dim nad yw wedi cymeryd lle lawer tro o'r blaen. Sue- tonius wedi glanio, a thrigolion Rhufain yn talu teyrnged o barch iddo am ddarostwng yr Iceniaid. Banerau yn cyhwfanu ! Bwa ar ol bwa yn >lygu o dan lwyth o flodau a gwyrdd ddail ! Iwre! Hwre ! yn rhwygo yr awyrgylch, fel y teithia y maeslywydd a'i osgorddlu tua chyfeir- iad y palas. Aj fur rhodle dlos y safai y ddau gyfaill, a'u