Skip to main content

Cyfres II.—Rhif. 11.—Awst, 1S82. OYFAILL • YR • AELWYD: SILYANO, Neu DDIALEDD YR ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y Novel aü oreu yn Eisteddfod Genedlaethol, 1881.) Gan W. G. Willtams (Glynfab), Clydach Vale. Penod XXI— Y Fewydr. CHOSODD yr hanes am gyflafan Camu- lodunum i Pestillius, swyddog ar y naw- fed lleng, i barotoi ei wyr er ymosod ac ad-dalu i'r brodorion, a chyn terfyn dydd yr oeddynt yn teithio i gyfarfod y gelyn, mewn llawn yspryd rhyfel a dial. Felly hefyd bu dyfodiad y fyddin frodorol i bentref Buddug yn achos o gryn rialtwch, ac wedi adgyfnerthu ac adnewyddu ei hun, gorchy- mynwyd iddynt, gan eu swyddogion, eto_ i deithio i gyfarfod a'r gelyn, tra yr oedd Duwies Rhyfel yn gwenu arnynt! ac wele hwynt yn brysur deithio i'r deheu. Cyfarfyddodd y ddau allu tua chanol ffordd. Brodorion yn 11 u ar un ochr, a chatrawd o Ruf- einwyr o dan arweiniad Pestillius yr ochr arall. Wedi canfod o honynteu gilydd, wele'r frwydr yn dechreu, canys pan ddaeth y Prydeiniaid yn hysbys o agosrwydd y gelyn, cymerodd rhuthr le, tra y safai y Rhufeiniaid dysgybledig fel mur dynol i'w derbyn. Ysgubwyd y gwyr traed megys prenan crin o flaen ilif-ddyfroedd, a gorfu i Pestillius ffoi yn nghyd a'i wyr meirch. Felly gwenodd buddugoliaeth dro ar ol tro ar ymdrechion y Prydeinwyr, nes o'r diwedd iddynt goleddu y syniad nad oedd bosibl i'r faner Rufeinig gael ei chwifio mwy ar diriog- aeth Prydain. Tra yr oedd yr aflwyddiant yn cynyddu, a chanoedd o Rufeinwyr dewr yn syrthio o flaen y picellau, yr oedd y Maeslywydd Suetonius yn trefnu ei filwyr. Symudodd yn ofalus i ganol y fyddin Bryd- einig mor belled a Llundain, ond buan y cafodd weled nad oedd modd gwrthsefyll, a barnodd yn ddoethach aberthu Llundain na cholli ei fyddin, ac felly llithrodd yn ol. Torodd yr ystorm ofnadwy ar y trueiniaid ; a chymaint ydoedd syched y brodorion am waed fel ỳ darfu iddynt syrthio arnynt, a lladd pob perchen anadl, ac yn mhen byr amser yr oedd y drefle yn un a'r Uawr. Casglodd Suetonius ei alluoedd yn nghyd unwaith eto, ac yr oedd o amgylch ei faner oddeutu mil o wyr profedig, a barnodd y gallasai a'r gallu hwn roddi pen bythol ar lwyddiant y gelyn. Gosododd ei wyr mewn agoriad cul rhwng dau fryn, ac yr oedd yn barod i dderbyn yr ymosod- iad pan ddaeth y llu Prydeinig i'r golwg. Yr oedd yn erfyn rhuthr uniongyrchol, ond siom- wyd ef, canys safodd y fyddin yn un corph heb yn ddiau ganfod y Rhufeinwyr. Beth sydd yn bod ì Yr oedd y Prydeinwyr wedi penderfynu rhoddi yr olaf ddyrnod, yr hon ydoedd i ysgubo pob Rhufeinwr oddiar dirioç^- aeth gwlad eu tadau, ac nid ydoedd troed un o honynt i halogi glaswellt ei dyffrynoedd. Nid rhyfedd i'r fath syniad gymeryd medd- iant o'u meddyliau, canys hyd yn hyn yroeddynt yn difodi fel eira ar y dyfroedd. Clywòdd Buddug fanylion y llwyddiant, a phenderfynodâ arwain yr ymosodiad yn bersonol. Gan hyny esgynodd i'w cherbyd rhyfel, ac ymaith i faes y gwaed, yn cael ei chanlyn gan Eurfroh a Rhianon. Achosodd ei dyfodiad fanllefau uchel o gym- eradwyaeth, a dyna ydoedd y rheswm am yr oed- iad. " Eurfron a Rhianon, fy anwyliaid," ebe ! i, wele fi yn sefyll ar dir ansicrwydd ; mae fy ngwlad yn galw arnaf i arwain ei meibion dewr yn erbyn y goresgynwyr. Mae rhyddid yn y glorian, bydd iddo sefyll neu syrthio yn awr. Bydded i chwi ymneillduo i ben y bryn cyfagos i edryeh ar eich mam yn gwneyd olaf ymdrech dros eich rhyddid, ac yn dial y dianrhydedd." Wedi cofleidio mewn dagrau, ymneillduodd y ddwy i ben y bryn. Symudodd y rhyfel-gerbyd yn araf drwy y rhengau, ac ynddo yn sefyll yn herfeiddiol yr oedd Buddug. "Mae y Prydeinwyr," ebe hi, "wedi arfer ymladd o dan arweiniad benyw, a rbaid yn awr ddial ar y garesgynwyr hyn am fy niraddiad iT a'u herfeiddiwch o gyhoeddi yr Ymerawdwr yn