Skip to main content

Cyfres II.—Rhif. 10—Gorphenaf, 1882. CYFAILL-YR-AELWYD: SILYANO, Neu DDIALEDD YR ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y Novel aìl oreu yn Eistedâfod Genedlaethol, 1881.) Gan W. G. Williaäis (Glynfab), Clydach Vale. PENOD XVIII.—SlLYANO. R olaf a glywyd am Silvano ydoedd ei ddiangfa brydlon i'r gell tanddaearol cyn dyfodiad y milwyr i chwilio am dano noson ei ryddhad. Amser helbulus a dreuliodd oddiar hyny, anhawsderau yn rhuthro i'w lwybr nes braidd diffodd y pelydr o obaith am gyr- haedd Rhufain o'i feddwl. Penderfynodd mai doeth fuasai iddo aros yn ei ymguddfan hyd nos tranoeth er adgyfnertnu ei hun, ac hefyd er dyogelwch. Pan ymadawodd a'i gariadferch Eurfron, aeth yn ei flaen heb wybod i ba le, canys nid oedd yn adnabyddus o'r rhan hono o Brydain tuhwnt i bentref bren- inol yr Iceniaid. Ond penderfynodd deithio tua'r gogledd, a hyny mor ofalus ag y medrai o dan amgylchiadau mor resynus. Fel y dygwydd- odd, yr oedd y wlad yn wastad-dir, a'r 'unig drafferth iddo wneyd ei ffordd yn mlaen yn y tywyJlwch, fyddai dyfod i wrthdarawiad ag ambell lwyn go lydan. Weithiau syrthiai ar ei ben iddynt, a thrwy anhawsder y medrai ym- ryddhau. Yn ystod ei daith daeth at afon lydan, ar lan yr hon y gorphwysodd dros weddill y nos. Gorphwysodd ei ben ar y graig galed, ac ehedoád ei feddwl i fro cwsg, yno i ymuno ag Eurfron, a phan y darfu iddo ddeffro, yr oedd teyrn y dydd ar ei orsedd, a'r haulwênau yn chwareu yn dirion ar ei ruddiau. Cododd o'i orweddfan, a chanfyddodd mai nofio yr afon ydoedd yr unig gyfrwng i lanio yr' ochr arall. Diosgodd ei wisg, ac aeth i'r dwfr, ac wedi ymddifyru ac adnewyddu ei hun, rhodd- odd ei ddillad dros ei ysgwydd, a throsodd yr aeth. Cyrhaeddodd yno, ac eisteddodd i ail- wisgo, ond ha! wele law yn gorphwys ar ei ysgwydd; trodd i edrych, ac o?r tu ol iddo y safai un o'r brodorion a gwên fuddugoliaethus ar ei wefusau. " Ni byddi di yn hir," ebe Silvano wrtho ei hun, " cyn cyfnewid dau fyd f ond cyn rhoddi ei fwriad i weithrediad, edrychodd o'i amgylch a chanfyddodd heb fod yn mhell wersyllfan haid o'r un rywogaeth a'r ymwelydd wrth ei ochr. Nid ydoedd o un dyben tori geiriau a'r brodor, canys ni fuasai yn deall hyny, a thynodd ei ddagr, gan ei ddangos, a cheisio rhoddi ar ddeall fod yn angenrheidiol iddo ymadael neu golli gwaed ei galon. Wrth weled y dagr neidiodd y Brython yn ol, gan roddi ysgrech o ddychryn. Gwelodd Silvano fod pobpeth ar ben, a phenderfynodd ffoi gyda glan yr afon, gan ddylyn rhediad y dwfr, fel os y llwyddai i ddianc, y deuai at lan y môr. Gyda ei fod yn cychwyn, rhoddodd y brodor waedd rhyfel, ac atebwyd hi gan ei gyf- eillion ; bu hyn yn symbyliad i Silvano, ae yn arwydd iddo geisio pellhau oddiwrthynt. Èdrychodd o'i ol, ac wele yr oedd ei ymwelydd blaenorol yn ei ganlyn fel hydd yn ei gyflymdra. Ac nid oedd y rhedegfa i fod rhyngddynt hwy yn unig, canys cyn hir yr oedd haner dwsin yn ei ddylyn gydag ysgrechiadau barbaraidd, yn ddigon ofnadwy i rewi y gwaed yn ngwythienau y Rhufeinwr ieuanc dewr-galon. Rhedegfa gyfyng ydoedd. Bywyd o'i flaen, ac angau sicr o'i ol. Pa un sydd yn ei aros ? Llawer a rydd dyn am ei einioes, a diau mai dyna ydoedd teimlad Silvano, druan, tra'n prysuro yn mlaen. Ond nid oedd i barhau yn hir, canys nid oedd ei gorph wedi ei wneyd o gallestr. Yr oedd yn cyflym arafu ! Edrych- odd, a chanfyddodd fod ei erlidwyr yn rhoddi i fyny. " 0 am ychydig nerth eto, a byddaf yn ddyogel," eb efe, ac edrychodd o'i flaen, yno i ganfod tri o'r brodorion ar eu meirch yn ei aros. Canfyddodd mai ofer gwrthwynebu, gan obeithio drwy ufudd-dod ddenu trugaredd. Llamodd dau o honynt oddiar_ eu meirch, gan nesau ato, ac amneidio arno i beidio â dangos un tuedd gwrthwynebu, ac arweiniasant ef at ochr un o'r anifeiliaid, ac wedi sicrhau ei freichiau a math o groen-linyn, rhoddasant ef ar un o honynt, ac yn mlaen a hwy i uno a'r fìntai yn y wersyllfan.