Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres II.—Rhif. 9,—Mehefin, 1882. CYFAILL • YR • AELWYD: tëyîwrtdiart pteai at WmmttU y (Stymrtj. SILYANO, Neu DDIALEDD Y R ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y Novel ail oreu yn Eisteddfocl GenedlaethoJ, 1881.) Gan W. G. Williams (Glynfab), Clydach Yale. YSTORM YN NesHAU."—PENOD XV. 'YRHAEDDODD y ddau filwr balas Decianus cyn machludiad haul, ac aethant i'w wyddfod i draethu cenadwri Buddug. " Pa beth ydyw ansawdd yr atebiad V ebe Decianus. "Nid ydyw Buddug yr Iceniaid yn arfer ufuddhau i'r fath orchymyntra-arglwyddiaethol." Edrychodd y milwr i wyneb y goruchwyliwr, ond yr oedd hwnw wedi ei daro fel â mudandod, tra y syliai megys ynfydyn ; ond mae gwirion- edd yn yr hen ddiareb, "Ar ol hinon daw ystorm." Nid hir y parhaodd mudandod Decianus, canys eiliad arall yr oedd ystorm o felldithion yn dylifo dros ei wefusau, a chyda hyny wele Comius yn cael ei ollwng i mewn, ac mewn atebiad i'w edrychiad ymholgar, rhoddodd Decianus y manylion sydd bellach yn hysbys i'r darllenydd. Ni ddywedodd Comius un gair, canys yr oedd eurgainc cariad fel gwefr o'i galon ef at y llwyth ydoedd yn nod saethau y goruchwyliwr ; ac er fod Deciauus yn erfyn iddo gyduno, ni dywedodd air. Cymerodd y goruchwyliwr er hyny y tawelwch yn hollolgyferbyniol, canys dywedodd yn mhen enyd, " Nid rhyfedd, Comius, eich bod wedi eich taro a syndod. Eisteddwch bellach, na fydded i ni aberthu ein pleserau a chythryblu ein meddyliau uwchben esiamplau c anwariad aDfoesgar. Ha ! ha ! Byddaf i fyny a hwynt eto ; mae cynllun newydd genyf, cewch farnu. Gan na ufuddha- odd y Freniues uchelfeddwl hon i fy ngorch- ymyn, rhoddaf ddychymyg iddi o gyfrwystra Rhufeinig. Fel hyn Comius : Danfonaf genad ati i oíyn ei maddeuant am fy myrbwylldra, a dweyd fy mo I yu credu y bydd iddi edrych heibio fy eofudra pan yr addefaf fod Bacchus yn achos o hyny. Fel prawf o fy edifeirwch, fy mod yn parotoi gwledd o anrhydedd i Buddug yr Iceniaid, gan erfyn ar ei Huchelder bresenoli ei hun yn fy mhalas y noson hono." Teimlai Comius y gwrid yn codi i'w ruddiau, camsyroedd yn canfod dianrhydedd yn crogi uwchben teulu ei anwylyd, ond ni wnaeth un sylw ar eiriau Decianus, a theimlai yn Hawen i hyny gael ei hebgor trwy i genad gael ei ollwng i mewn. " 0 ba le y deui di ì" ebe Decianus. " Oddiwrth y cadlywydd Pestillius," ydoedd. yr ateb. " Beth ydyw dy neges ?" "Gorchymyn i swyddog, o'r enw Comius, i barotoi i ymadael i Rufain. "Comius, clywaist y geiriau, rhaidi íi deithio i Lundain i gyfarfod a Pestillius." " Blin genyf orfod ymadael, canys yr wyf wedi ymsefydlu yma erbyn hyn ; ond rhaid ufuddhau i orchymyn yr Ymerawdwr. Ymadawaf doriad gwawr, gan hyny, nos da." Wrth brysuro tua'i gartref, penderfynodd unwaith gyfrwyo éi farch, a gyru nerth carnau í hysbysu Buddug o'r cynllwyn. " Ac," ebe efe, " beth am Silvano ì Gobeithio iddo ddianc i lan y môr, a dyfod o hyd i long i'w gludo i Rufain. Rhaid gobeithio y goreu, a rhoddi y cwbl i ddoethineb a thrugaredd y duwiau, gari obeithio y trŷ pethau allan yn oleu clir. Ffarwel Rhianon dlos, ac Eurfron dirion, byddaf yn dychwelyd cyn hir yn fwy dedwydd, gobeithiò." Ac yna wedi cyrhaedd ei lety, parotodd i orphwys dros y nos. Tranoeth cychwynodd negeseuwyr Decianus tua phentref Buddug. PaD welodd rhai o'r pentrefwyr ddau farchog Rhufeinig yn neshau. ymneillduasant, canys yr oedd yr hanes am y dygwyddiad y noson flaenorol wedi creu atgas- rwydd atynt yn eu calonau. I fyny yr aeth y ddau farchog at borth y breswylfa freninol. Yr oedd Buddug yn hyspys o'u neshad, ac anfonodd un o'r prif-swyddogioD ar ymholiad o'u neges.