Skip to main content

Cyfres II.—Rhif. 7.—Ebrill, 1882. CYFAILL • YR - AELWYD: SILYANO, Neu DDIALEDD YR ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y Novel aìl oreu yn Eisteddfod Genedlaethol 1881.) Gan W. G. Williams (Glynfab), Clydach Valb. Pjsnod IX. Ty Galar. ^URODD y negesydd Icenaidd wrth borth palas Decianus. " Edrychwch pwy sydd yn curo am agoriad," ebe Decianus. "Un o'r Iceniaid â chenadwri oddiwrth ei freniu," oedd yr atebiad. " Gorchymynwch ei bresenoldeb ar unwaith. Beth all fod ei neges ì" I Cyn hir safai y negesydd yn ngwyddfod y goruchwyliwr Rhufeinig. " Beth sydd genych i draethu ?" ebe Decianus. " Ai dyfod i ofyn tâl am fy arosiad yn eich pen- tref yr ydych Y' meddai dan chwerthin. "Nage, anrhydeddus Decianus, ond buasai hyny, er mor anfoneddigaidd, yn neges mwy pleserus i mi na'r hyn sydd genyf." "Beth sydd yn bod ? A ydyw y llwythau yn tueddu i wrthryfela f Ac edrychai i lygaid yr Iceniad yn bryderus, fel yn ofni clywed ateb- iad cadarnhaol. " Nage, nid hyny." " Brysiwch ynte i roddi o fy mlaen swm eich neges, yn lle gweithio ar fy amynedd fel hyn," ebe Decianus. Cododd braw i galon y negesydd wrth weled Decianusyn cyffroi felly, a dywedodd mewn llais crynedig— "Buein brenin urddasol Brasydog allan yn hela heddyw, neu yn hytrach neithiwr, a nifer o'n milwyr gydag ef. Llamodd blaidd arno heb yn wybod o'r tu ol, a buasai wedi ei ladd oni buasai i'w wyr ei gynorthwyo. Y mae yn awr yn gorwedd wedi ei glwyfo yn beryglus." " Newydd tra anghysurus yn ddiau ; ac wrth gwrs yr ydych yn ceisio ein meddygon i weini arno V' " Dyna fy neges." "Pobpeth yn dda; diau fod dyled arnaf. Bydd y meddygon yno o'ch blaen. A oes rhagor i'w fynegu 1" " Oes, anrhydeddus syr. Y mae yn dymuno eich gweled, canys ofna fod ei glwyf yn angeuol." " Byddaf yn ol yn mhen enyd," ebe Decianus, ac aeth allan o'r ystafell. Dychwelodd y goruchwyliwr yn fuan, a dy- wedodd—" Mae y meddygon wedi cychwyn. A oes genych farch Y' " Oes." " Aroswch enyd a deuaf gyda chwi." " Beth all fod angen Brasydog ?" ydoedd geir- iau Decianus tra'n parotoi i ymadael am bres- wylfod y brenin Icenaidd. " Feallai ei fod am roddi rhan o'i gyfoeth i mi. Ha ! Ha! Bydd hyn yn achos i mi ohirio fy nghynlluniau parthed Silvano, ond byddaf yn sicr o'i roddi yn y car- char cyn diwedd yr wythnos." Daeth at y porth o'r diwedd, ac wedi dewis ei ganlynwyr, dywedodd wrth y negesydd—" Cych- wynwn." Cyn cyrhaedd y pentref, wele frodor yn dyfod i'w gyfarfod, ac yn dywedyd mai tystiolaeth y meddygon ydoedd, nad oedd gan y brenin ond amser byr i fyw. Brysiodd wrth glywed hyn, ac wele ef yn sefyll wrth ochr y penaeth Icen- aidd, ar wynebpryd yr hwn y gwelid fod ty- wyllwch dyffryn angeu yn cyflym daenu di'os yr enaid ydoedd fel pe yn methu penderfynu pa un ai aros ai ymadael a wnai. Dyma y fath olygfa drist, galonrwygol, a ddaeth i ran y swyddog Rhufeinig i fod yn llygad-dyst o hono. Yr oedd Brasydog yn medru parablu yn ddys- taw, ac ebe efe wrth Decianus— " öh ! fy ngwraig a'm dwy ferch—beth ddaw o honynt ì Wele fi ar fìn rhoddi ffarwel bythol; 0 na allwn weled arwyddion gwanwyn einioes eto. Ni chaf anelu y bwa a'r saeth eto. Oh! fy anwyliaid," ac ehedodd ei einaid ifyd tragy- wyddol. Yr oedd wylofain Buddug, Eurfron, a Rhianon yn ddigon i beri i'r galon fwyaf adamantaidd i doddi. "Nid oes .cariad fel cariad gwrag-