Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cypers II.—Rhif. 6.—Mawrth, 1882. OYFATLL • YR • AELWYD: ê\jẅMM Ptó0i ai WtmnMẄ tj Ŵ«mî. SILYANO, Neu DDIALEDD YR ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y Novel ail oreu yn Eisteddfod Genedlaethol 1881.) Gan W. G. Williams (Glynfab), Clydach Vale. Stlw.—Khoddodd y beirniad y ganmoliaeth uchaf i'r Novel yma. Mae y Ddalen hon o Hanes yr Hen Gymrj yn un o'r rhai tywyllaf yn hanes ein cenedl. Portreada yr awdwr gyda bywicgrwydd a gallu orthrech greulawn a bradwrus y goresgynwyr, dialedd erchyll yr Hen Gymry dan arweiniad eu Brenines anffodus Buddu? * dengys ymyl arianaidd y cwmwl du gaulynodd "Dialedd yr Iceniaid."—Gol. Cyeaill yr Aelwyd.) Penod VI. Un Saeth o Gawell Dialedd. JSÍ mhen yr wythnos yr oedd braich Silvano unwaith eto o dan reoleiddiad ei feddwl. Am Decianus, yr oedd yn gwella mor gyflym fel y penderfynodd ymadael am Camulodunum mewn ychydig ddyddiau. Eisteddai y ddau lanc clwyfedig gan saethau Cupid un boreu y tuallan i'r pentref yn sipio per awel y bryniau. " Beth am ymadael, Comius V ebe Silvano. " Wel hyn, mai dymunol fyddai aros ychydig eto." " Yr wyf o'r un farn a chwi, buaswn yn fodd- lawn cymeryd rhan mewn gornest â haid o fleiddiaid, pe bae hyny yn achosi ein harosiad," ebe Silvano. Yr unig ateb oddiwrth Comius ydoedd chwer- thiniad iachus. " Ust ! Beth mae swn y corn yn arwyddo ì Brysiwn i'r pentref," ebe Comius. Cyrhaeddodd y ddau gyfaill y pentref, yno i weled torf fawr o Iceniaid wedi fì'urfio yn gylch o amgylch math o esgynlawr, ar yr hwn yr eisteddai Brasydog, Buddug, a Decianus, a chlywid y Derwydd yn cyhoeddi a ganlyn :— " Wŷr Ieeniaid ! Nid yn aml yr ydym yn cael presenoldeb Rhufeinwyr urddasol. Yr ydym ni, canlynwyr diysgog ein hoffusaf frenin a breniues, wedi ein breintio a chyfle i arddan- gos ein cydymdeimlad, a phrofi y medrwn gadw cytundeb heddwch, ar ol unwaith lawnodi y cyfryw. Yr anrhydeddus Decianus a achubwyd genym o afael yr haid fileinig. Mae yn awr yn mron cael llwyr wellhad, ac yn parotoi am ym- adael tua Camulodunum. Ar gais ein hoffusaf deyrn, yr wyf yn dymuno cyhoeddi cynulliad i gymeryd lle boreu yfory ; pan y dysgwylir i bob Iceniad bresenoli ei hun mewn Uawn arfogoeth, ac y rhana yr anhryd* eddus Decianus wobrau i'r buddugwyr ar y bwa-saeth. "Hyn er parch i'r 'Faner Rufeinig.'" Ar ddiwedd yr anerchiad, rhwygai'r awyr- gylch gan fanllefau o gymeradwyaeth, canys hoffbeth ,yr Iceniaid ydoedd cystadlu â'r bwa- saeth ; ac nid yn aml y beiddiai un Uwyth dynu bwa yn eu herbyn ; ac yr oedd derbyn y wobr o law y goruchwyliwr Rhufeinig yn cynyddu eu hawydd. Gwasgarodd y dyrfa cyn hir gan brysuro ymaith i wneyd y parotoadau. Trodd Decianus at Brasydog a Buddug i ddiolch am yr arddan- gosiad hwn o barch iddo, ac yna dychwelasant i'r preswylfod breninol. Tranoeth yr oedd y pentref yn ferw i gyd, nid oedd un ty nad oedd y bwa yn cael sylw manwl, newid y tanau, a gofalu am gael rhai yn berffaith grwn, canys y lleiaf peth a allasai beri colli yr anrhydedd. Ar y maes yr oedd gweision y brenin yn cyf- lym godi eisteddfan i'r teulu breninol a'r goruch- wyliwr, a gosod y nod yn yr iawn fan, gan fesar aílan y pellder, ac erbyn fod yr haul ei hun yn gwenu dros gribau y bryniau yn y pellder yr oedd pobpeth yn barod. Yr oedd yr Iceniaid yn prysur ddylifo i faes yr ymdrechfa, ac yn wir yr oedd rhai o honynt wedi dechreu ymarfer. Wele y tri urddasol yn esgyn yr esgynlawr; wrth eu hochr y safai Eurfron a Rhianon, ac yn bur agos atynt hwythau yr oedd Silvano a Comius. Cyhoeddwyd fod y difyr-gampau ar ddechreu. Un ar ol un y deuai yr Iceniaid i fyny at y fan benodedig, gan ollwng y saeth gyda chywirdeb rhyfeddol. Wedi ychydig o ymarferiad, cy- hoeddodd y Derwydd fod Decianus yn rhodd-