Skip to main content

Cyprbs II— Rhip. 5.—Chwefror, 1882. CYFAILL • YR • AELWYD: ëyìwtMM Ptëol at Wmmttìt g ülpnty. SILYANO, Neu DDIALEDD YR ICENIAID. DALEN 0 HANES YR HEN GYMRY. (Y Novel aìl oreu yn Eisteddfod Genedlaeihol 1881.) Gan W. G. Williams (Glynfab). (Sylw.— Rhoddodd y beirnîad y ganmoliaeth uchaf i'r Novel yma. Mae y Ddalen hon o Hanes yr Hen Gymry yn un o'r rhai tywyllaf yn hanes ein cenedl. Portreada yr awdwr gyda bywicgrwydd a gallu orthrech greulawn a bradwrus y goresgynwyr, dialedd erchyll yr Hen Gymry dan arweiniad eu Brenines anffodus Buddug, a dengys ymyl arianaidd y cwmwl du gaulynodd "Dialedd yr Iceniaid."—Gol. Cyeaill yr Aelwyd.) Pen. III —" Y Ddatt Elyn." \_ __ 'R oeddy wawr,rhagredegydd teyrn y dydd, -^ wedi eurliwio y bryniau a'r dyffrynoedd, ac nis gallasai ond llaw Anfeidrol Dduw dynu darlun mor llawn o wir brydferthwch. Cil- iodd y nifwl ydoedd drwy'r nos wedi ymdaenu fel mantell ysgythrog yrnaith yn araf, fel pe yn hwyrfrydig i roddi i fyny ei orsedd, ond eto yn oíni cael ei sugno o fodolaeth dan rym swyn gwyneb hawddgar brenin yr awyrgylch, a ífyn- onell gwres a goleuni y ddaear—yr Haul. Cod- odd yntau yn araf a swynol, nes o'r diwedd ddaníon ei belydrau i bob cwr o'r wlad oddi- tano, a dawnsio yn gun ar bared ystafell gysgu Decianus, ac hefyd ar ei wyneb oedd hyd yn nod yn awr yn dal yn ei feddiant wên lidus a'r olwg ddialgar. Cododd Decianus o'i wely esmwyth, a rhodd- odd ei wisg am dano. Arferai dalu ymweliadau a'r llwythau oeddynt o dan delerau heddwch, er mwyn sicrwydd nad oeddynt yn tueddu i wrthryfela, a cheisio gwneyd y rhwymau cytun- dlebol yn sicrach drwy arddangosiad arwynebol o ofal am eu hangenrheidiau, " Rhaid i mi roddi tro i weled Prasutagus heddyw," ebe fe ; "mae yn dal yn dra ffyddlawn, ond dyna, diangenrhaid diolch iddo, canys ni fedr wneycl arall. Fe allai hefyd y deuaf o hyd i Silvauo." Galwodd am ei foreufwyd, a gorehyinynodd ddwyn ei farch, gan ei fod yn bwriadu teithio i wlad yr Iceniaid. Cyn cychwyn, rhoddodd ei ddagr wrth ei ochr, canys o'i fìaen yr oedd taith hirfaith, unig, a llawn o beryglon. Rhyngddo a'r pentref Icenaidd, yr oedd coedwig eang, car- trefle bwystfilod rheibus—eirth, bleiddiaid, &c.; ac nid ocdd y dewraf o deithwyr yn cynyg treiddio drwyddynt heb ei fod yn hollol barod i amddiffyn ei hun. Llamodd Decianus ar ei farch hoew, ac aeth yn mlaen i'w daith, yn cael ei ganlyn gan Comius a dau o weision. Marchogai y ddau swyddog ar y blaen, gan dreulio yr amser mewn ymgomio. "Anrhydeddus Decianus," ebe Cornius, "a ydyw yn bosibl i mi gyfnewid eich barn am fy nghyfaill Silvano ì Chwith iawn ydoedd genyf wrandaw eich dyfarniad parth ei gymeriad." " Mae arnaf ofn nad yw yn bosibl, canys pe I gwybyddech y cam a dderbyniais oddiar ei law, ; ni íuasech yn gofyn i mi." " Nid wyf yn hyddysg yn yr helynt, eto nid ) wyf yn credu ei fod yn drosedd mor anfaddeuol a hyny. Onid chwychwi oedd yn y bai hefyd ?" "Rhaid cyfaddef, Comius, mai arnaf fi y dylai y gosb syrthio, ond nid oedd yn angen- rheidiol iddo ef gyfaddef y cwbl." " Gadewch i mi, anrhydeddus Decianus, dynu cytundeb heddwch rhyngoch ì" 11 Comius, y mae genyf feddwl uchel am clanoch chwi; ond am Silvano, fy ngelyn ydvw. Pe buasech yn gofyn rhywbeth oddiar fy llaw, heb ei fod yn dal cysylltiad a Silvano, ni fuasai dim yn fy lluddias i gydsynio. Oncl maddeu i Silvauo ! Ha! Comius, onid ydych wedi clywed am ysbryd dialgar fy áchau ? Rhed megys ffrwd o'r gwreiddyn i'r gangen, fel y dilyna y lleithder o wraidd y dderwen i'w changenau hithau. Tra y byddo y gwaed yn parhau i redeg yn fy ngwythienau, erys y dial ynwyf. Hjm, Comius, na fydded i chwi eiriol mwy; canys tynaf edifeirwch o Silvano mewn dull na fydd yn creu pleser iddo ef." " Drwg genyf am sefyllfa pethau," ebe Com- ius ; " gwnaf eich archiad, gan obeithio y bydd i'r hyn na fedr fy eiriolaeth i ei wneyd gael ei dclwyn oddiamgylch gan amser. Auiser a dry y gallestr yn llwch."