Cyfres II.—Rhip. 2.—Taohwedd, 1881. CYFAILL-YR-AELWYD: (6$ẅt&&M Ptófll Ä* WMMMtìt y (üÿmtÿ. OWEN HUGHES : neu, O FAINC Y CRYDD I'R BENDEFIGAETH. DRAMA BYWYD MEWN TAIR ACT. Gan y Golygydd. ACT GYNTAF.-(Parhad). , GOLYGFA III.— LLAWENYDD A GALAR. (5) U yn amser prysur a phryderus yn y Ty- llwyd ac yn y Plas am beth amser ; yn y blaenaf rheolai Beto o'r Glyn, gan gym- wyso holl feddyginiaethau traddodiadol syml yr ardal; yn yr olaf Uywodraethai Dr. Howel, gan ddefnyddio holl gelfyddyd a gofal dysg a phrofiad. Ychydig sylw dalwyd gan Beto i ddarlleniad teimladwy y patriarch ; yr oedd ei holl feddwl yn cael ei gymeryd i fynu gan ei pharotoadau. Pan orphenodd y rhai hyn, trodd at yr hen wr gan ddweyd,— " Wel, Owen Hugb, ai yma yr wyt eto ì Bu- asai yn reitiach dy fod di wedi myn'd i 'nol y doctor hwnw y soniaist am dano, na dy fod yu aros yma yn ffordd rhai all wneyd Jles. Dos, dos allan. Ni fydd dy eisieu am dipyn." " Wel, af shiwr, Beto fach, a mi af i siarad a'r Meddyg Mawr, a cheisio ganddo ddod yma i roi tipyn o help i ti;" ac aeth yr hen wr allan wrth ei ffon, ac heibio congl y ty i'r beudy, lle y syrthiodd ar ei liniau ac y tywalltodd ei enaicl allan mewn gweddi. " Hy ! Help, yn shiwr !" snochtai Beto. " Os oes rhy w un am roi help i mi, bydd gofyn iddi nhw ddod yn fuan. Nawr Peggy, am beth wyt ti'n chwerthin ? Mae yma rywbeth gwell na hyny i ti i'w wneyd. Dere yma, a rho help dy law at Mari. Hylo !" ebe hi mewn syndod, wrth weled gwên ddifyr yn goleuo gwynebpryd y ddynes sâl; " Hylo ! Beth sydd wedi dod drosot ti, Mari ] Yr wyt wedi gwella un gein- iog ar y llall yn dy olwg." " Wyt ti ddim yn meddwl y gall fod y doctor wedi bod yma pan oe't ti wedi troi dy geín V gofynai Owen. " Uwch anwyl! naddo, mi gymeraf fy llw !" ebe Beto ; " ond, doctor neu beidio, mae Mari yn well nag oedd hi pan ddes i niewn. Dere di, Mari fach, cŵn dy galon; chaiff Lady'r Plas ddim mwy o chwareu teg, er y doctor a chwbwl, ûag a gei di;" ac yr oedd tynerwch yn llais a lleithder yn llygaid yr hen greadur caled ac an- ystyriol. Cyn pen fawramser rhedodd Owen Hughes allan i edrych am ei dad. Cafodd ef, fel y dys- gwyliai, ar ei liniau. " Nhad, diolch i Dduw, mae Mari wedi myn'd trwy'r pwl, ac mae pobpeth yn dda." "Ië, diolch i Dduw, fy machgen i. Bu y Meddyg Mawr yn un a'i air, ac ni chauodd ei glust i alwad ei was. Bwrw dy ofal arno, Owen bach, efe yw'r ffrynd goreu gei di byth." " Ië, ie, nhad, mi wn ; ond ni theimlais hyny gymaint erioed a hedáyw, pan yn ofni y collwn Mari. Ond dowch i'r ty, mae Mari am eich gweled, ac am ddangos y bachgen i chwi." I mewn yr aethant, gan gael eu cyfarch wrth y drws :— " Wel, dyna i ti, Owen Hugh ; ble mae dy ddoctor di 'nawr T' " Ah ! Beto, Beto, pe gwybyddet hyny, yr oedd Ef yn edrych ar y cwbl, ac yn bendithio dy ymdrechion di." " Wel, wel, wni ddim beth yn y byd sydd yn dy ben di, Owen Hugh, ond mi wn fod yma cystal clamp o fachgen ag a fagodd Cymru erioed. Edrycb arno !" a chan blygu y dillad gwely ychydig yn ol, arddangosodd, gyda balchder bydwraig, y dyn bach oedd hi wedi wresawi i'r byd. Gwae fi na fuasai pwyntil yr arlunydd genyf i ddarlunio yr olygfa brydferth. Y'fam wau aidd, ei gwyneb gwyn yn troi modd y gallai ei llygaid ddysgleirio gan falchder ar ei phlentyu; y tad yn anghofio holl dlodi ei amgylchiadau bydol wrth syllu gyda balchder a chariad ar ei wraig a'i blentyn ar yn ail; yr hen wr penlìwyd mor falch a'r ddau, yn cymeryd y bychan yn ei íreichiau, yn plygu i gusanu y gwyueb bychan coch, ac i sibrwd, tra y dysgynai dagrau dros ei ruddiau ac yr ymgollent yn ei farf, " Yr Arglwydd a'th fendithio, ac a'th gadwo;" y cymydogesau yn sefyll yn haner cylch. gau edrych gyda chymaint dyddordeb a syndod ar y bychan a phe nas gwelsent y cyffelyb erioed o'r blaen ; a'r hen Beto o'r Glyn yn cymysg gwydr-