Skip to main content

Cyíres II.—Rhif. 1—Hydref, 1881. CYFATLL • YR ■ AELWYD: OWEN HUGHES : neu, O FAINC Y CR^DD I'R BENDEFIGAETH. DRAMA BYWYD MEWN TAIR ACT. Gan y Golygydd. Rhagdraeth. EAE llawer dyn cydwybodol i'w gael sydd yn cadw yn mhell rhag pobpeth a eíwir yn nofel, neu fFug-chwedl, gan ei ystyr- ied yn ffieiddbeth o'r fath fwyaf atgas. Nid yw yn credu y gall fod un amcan da gan y fath gyf- ansoddiadau. Mae yn gwybod, neu wedi clyw- ed, fod rhai nofelau yn llygredig, a chreda eu bod oll felly ; neu, os nad yn uniongyrchol nn- foesol, eu bod, a dweyd y lleiaf, 3^11 hollol ddi- fudd. Pa ddyben da, ymresyma, all fod mewn darlunio bodau dych'mygol, a dygwyddiadau dych'mygol? Nid yw yn ystyried nad yw dychymygy noíelydd yn gallu portreadu dyg- wyddiadau mor hynocl ag a gymerant le yn mywyd llawer dyn digon dinod. Ond er cy- maint geir i ddwrdio ar y nofel, ceir llawer mwy i guro yn ddidrugaredd ar y ddrama, dyfais—yn eu tyb hwy—0 eiddo Satan ei hun i lygru'r ieuenctyd. Na ato Duw i mi sefyll i fynu dros unrhyw beth a dueddai yn y mesur lleiaf i lygru y meddwl nac i iselhau y chwaeth,ond credat y gall y nofel a'r ddrama, nid yn unig fod yn bur ynddynt eu hun, ond y gallantfodyn athrawon purdeb a moesoldeb. Nid yw y ffaith fod y ddwy wedi bod yn hir yn nwylaw dynion an- nheilwng yn un rheswm dros eu gadael yn hollol yn eu dwylaw eto, ac i grefyddwyr, heb son am wyr moesol yn uuig, yingadw rhagddynt fel rhag pla. Na, pe felly, byddai rhaid i ni hefyd olchi ein dwylaw er enghraifft nddiwrth y wasg newyddiadurol, yr hon sydd wedi bod yn arf" llwyddianus lawer pryd yn nwylaw dynion llygr- edig yn erbyn moesoldeb a chrefydd. Pe ceis- iem am foment wahanu y petk oddiwrth ei enw, 0 bosibl y gwnaem fwy o gyfíawnder ag ef. Mae enw'r nofel a'r ddrama yn ddrygsawr i lawer. Ond, ah ! mae llawer drama gynhyrfus yn cael ei hactio yn feunyddiol o'n hamgylch, llawer ymrysonfa galed, llawer 0 ddyoddefaint dystaw, llawer brwydr lem, yn cymeryd lle yn mwthynod diaddurn Cymru ; oes, oes, ymryson- feydd rhieni i gadw newyn du draw 0 ddrws y babell; dyoddefaint talent dan faich tlodi yn hiraethu am ddyrchafìad ; brwydr enaid yn ym- geisio at ddaioni yn erbyn ymosodiadau y drwg sydd bob amser yn bresenol gyda ni; îe, meddwn, ymrysonfeydd, brwydrau, a dyoddef- iadau, na wyr neb ond y dyoddefwyr eu hunain a'r Hollwybodol Dduw yn eu cylch ; dygwydd- iadau, pe gallem eu darlunio yn iawn, a dynent ddagrau 0 lygaid, ac edmygedd 0 galon y mwyaf dideimlad. Oes, mae llawer nofel yn cael ei byw, a llawer drama yn cael ei hactio, y rhai, pe gallem wneyd cynawnder â hwynt wrth eu tros- glwyddo i bapyr, a sicrhäent glod i ni tra bydd- ai dyn yn dyoddef ac yn llwyddo ar y ddaear. Un o'r cyfryw yw y nofel-ddrama fechan hon. Dan guddlen deneu rhamant yr ydym yn ceisio cuddio personau sydd a'u henwau heddyw yn glodforedig gan bob Cymro. Y gweithredoedd gyflawnwyd ganddynt hwy yn unigrwydd a di- nodedd eu cartref yr ydym ni yn ceisio yn an- mherffaith eu gosod i'w hailgyflawnu yn ughy- hoeddusrwydd Aelwyd gyffredin y Cymry. ACT I.-GOLYGFA GYNTAF. Cyfoethog a Thlawd. Boreu ystormus yn y gwanwyn, rhyw gymaint gyda haner can' mlynedd yn ol—dyna'r amser. Heol lydan gerllaw pentref gwledig Llaniago—• dyna'r 11 e. Dau ddyn yn brysio yn eu blaen yn nanedd y gwynt, yn erbyn y curwlaw—dyna'r personau cyntaf yn y ddrama. Mae un o'r ddau yn cerdded, a'r llall yn marchogaeth—dyna ffasiwn y byd hwn, onite ? Eto i gyd nid yw cerdded bob amser yn anfan- tais. Nid oedd felly yn awr. Yr oedd y gwr traed yn cael peth 0 gysgod y perthi, tra yr oedd y marchogwr, o herwydd ei safle dyrchafedig, yn cynyg gwell nod i ymosodiadau yr ystorm Mae natur—os gall hi gael esgus rhesymol—yn hoffi gwneyd cymwynas i'r isel. Ai hyn, ai ei gorff cryfach, ai ei ysbryd oedd yr achos—tebyg- ol mai'r olaf; yr oedd rhywbeth yn peri fod y gwr traed yn gallu gwneyd ei ffordd yn mlaen yn mron os nad yn gwbl cystal a'r marchogwr. Er fod teneurwydd truenus dillad y cyntaf yn