Skip to main content

Cîv. IX.—ìLhif. 12.—Ehàgitb, 1889. CYVAÍLL • YR • AELW YD: DARLLEN FFUG-CHWEDLAU: LLESOL AI NIWEIDIOL? Gan Iwan Jenkyn, F.R.H.S. {Papyr ddarllenwyd o flaen Cymdeithas Cymreigyddion Bethesda, Hydref 23ain, 1889.) RTH ffug chwedl, neu nofel, y golygaf hyn, sef, " Cyfansoddiad seiliedig ar ffeithiau dilys, neu ynte ddygwydd- iadau posibl, ac yn cynwys darluniad o fywyd ac arferion pobl." Ceir rhai nofelau yn dysgu hanesiaeth y gorphenol pell; rhai yn trafod y presenol; ac eraill yn treiddio i'r dyfodol niwliog. Ond rhaid i bob un wrth gynllun—a pbo mwyaf celfydd y cynllun, perffeitbiaf y chwedl. Dygir gwahanol gymeriadau ger ein bron, traethant eu llen, ânt drwy eu gwahanol ranau, ac ymeiliant o'n golwg. Mae y ffug chwedl orphenedig y» addysgiadol o ran mater ac iaith, yn dyrchafu y chwaeth, yn eangu y meddwl, yn enyn casineb at ragrith a chariad at y da ; a chyflawna yr oll mewn ffordd ddyddan a difyr. Gesyd ger ein bron, brydiau eraill, y meddyliau sydd yn cyn- iwair drwy galon dyn ; mewn gair, darlunia ddyn fel y mae, ac nid fel yr ymddengys, yn gystal ag fel y dylai fod. Gwna â phersonau megys ag y gorchymynodd yr anfarwol 01iver Cromwell i Lely, yr arlunydd, wneud ag ef, sef, " Paentiwch fi fel yr wyf." Tybia rhai pobl mai pethau cym harol ddiweddar ydyw ffug chwedlau. Cam- syniad ydyw hyn. Dyma ofyniad a chyflenwad cyntaf dyn—unigolion a chenedloedd. Dyddorir plant yr Indiaid gwylltion heddyw, dyddorir plant cenedloedd gwareiddiedig heddyw, megys ag y gwnaethpwyd filoedd o flyuyddoedd yn ol, â chwedlau ; ac nid yn unig y plant, ond dyuion mewn oed hefyd. Cydnabyddir ar bob llaw fod y Beibl yn hen, ond ceir chwedl "gwinlla/? Naboth " ynddo ; a'r un ydyw hanfod chwedl yn mhob man. Yn y Testament Newydd cyfar- fyddwn â chwedl " Y Mab Afradlón," chwedl " Y Deng Morwyn," chwedl " Y Goruchwyliwr Anghyfiawn," ac eraill. Gelwch hwynt yn ddamegion, os mynwch, ond mewn Oymraeg, cymhariaethau neu chwedlau ydynt. Eu nod amcan ydyw dyddori ac addysgu y darllenydd. Barnwn nad oedd y Dysgawdwr o Nazareth am i neb gymeryd y chwedlau uchod fel dygwydd- iadau dilys, er nad oedd dim anmhosibl ynddynt. Ei amcan ef oedd addysgu y lluoedd drwy ddefnyddio cynllun dyddorol. Ond pwy a'n argyhoedda mai ei amcan oedd camarwain y gwrandawyr trwy ddwyn cymeriadau anmhosibl a gosodiadau anghywir ger eu bron? Peth Î)osibl i'r Athraw Mawr oedd gwyböd am ryw àb atradlon—oedd gwrando ar gwynion parthed rhyw farnwr anghyfiawnr—neu fpd _yn llygad dýst o siomiant rhyw forwynion yn nglŷn â gwledd briodas. Pethau posibl ddigon ydynt, ond nid ydyw yr Athraw am i ni eu cymeryd fel dygwyddiadau, ond yn hytrach ddygwyddiadau posibî. 0 ganlyniad, gelwir hwy yn chwedlau. Canfyddir felly fod chwedl "y winllan" yn sylfaecedig ar ffaith ; y lleill ar ffeithiau posibl. Ond gadawn yr Iuddewon am hyn yma. Beth pe y taflem gipdrem dros lenyddiaeth foreuol cenedloedd erailî? Cawn fod trigolion Hindostan, Persia, Groeg, Rhufain, a Phiydain yn ymhyf- rydu mewn chwedlau, yn arbenig y Celtiaid. Pallai amser i mi fanylu ar chwedloniaeth ddi- hafal y Cymry—cynyrchion ag ydynt yn faes efryd i Teunyson, y bardd. a goreuwyr llecgar y gwledydd, sef yw hyny, " Y Mabinogion" Beth ydynt amgen na chwedlau, rhamantau, neu nofelau yr hen Gymry. Gall fod iddynt seiliau hanesydd, a chredwn fod ; ond gwisgir y cyfan yu biydferth, a cliyfleuir hwy yn ledrus gan awdwr neu awduron celfydd. Cawn y cyníeirdd yn hoff o chwedîau : Edrydd Homer, wrth deithio o fan i fan, ar goüglau'r heolydtl ; ddyg- wyddiadau cytfrous Cadgyich Caeidroia. Ceir Llywarch Hen, yntau, yn hanesu y gyflafan erchyll a'i amddifadodd o'i bedwar mab ar ugain. Yn Mhrydain teithiaì y beirdd o bentref i beu- tref, o dref i dref, o gastell i gastell, o balas y tywysog i lys i brenin, a derbynid hwynt gyda'r parch dyfnaf gan y preswylwyr, yn benaf peth er mwyn clywed eu chwedlau. Gwnaeth chwedlau llafar y tro am ganrifoedd lawer ; ac fel yr oedd yr oesau yn treiglo yn mlaen, cryn- hodd cyflawnder o draddodiadau o'u cwmpas, a chawn y rhamant; ac erbyn ein dyddiau ni nid ydyw awydd dynion am chwedlau—am rywbeth newydd, wedi lleihau dim, a chawn y nofel mewn bri mawr. Prin y mae angen traethu mai ystyr y gair nofel, yr hwn a ddeillia o'r Lladin, ydyw newydd. Felly. golyga nofelydd un yn cyflwyno pethau newyddion Dyddorol ac addysgiadol lyddai olrhain yr afon fawr, sef ffug chwed^oniaeth y bedwaredd ganrif ar bym- theg, yu fanvlach i lygad y ffynon, ond palla amser a gofod. Pa vtedd b\nag, gwelir mai yr un ydyw banfod y chwedl yn mhob oes, ond yn y ganrif hou y cyrhaeddodd nod uchaf ei heu- wogrwydd. Cenfydd y craffus nad ydwyf yu cyfyugu y ffugchwedl i ryddiaeth, canys barnaf fod llawer o ffug chwedlau anfarwol ar fesur cerdd. Beth am Shakespeare enwog ì Ai nid chwedlau ei chwareugerddi 1 Ond medda ei weithiau ef, lawer o honynt, seiliau banesyddol, a