Skip to main content

Cîv. IX.—JRhif. 11.—Taohwedd, 1889. CYVAILL • YR • AELWYD: mjUtUiU Pteal at Wmnaetfc g flDynmî. YR ENETH WLADGAROL. RHAMANT HANESYDDOL. Gan Evan R. Evans. Aiodwr "Yr Eistedd/od," " Elen Puw," <kc. Penod II. " Cymru. os wyt fechan, Cedwaist Rufain allan, Dane a Norman, Sais a phawb, welsant yma'u dydd, Allan a'r picellau, môr o waed neu Gymry Rydd." Ceiriog. " Hoyw rudd, rywiog, hardd riain, Hi a ladd fab a'i hael ddu fain !" Sion Tudyr. "OS ydoedd. Ac 0, y fath noson ! Rhuai y taranau, gwibiai y mellt, a churai y gwlaw ! Yr oedd y cornentydd bychain a redeut dros lethrau mynyddoedd Morganwg yn rhuthro i'r cymoedd islaw, ac yno yn uno yn ffrydlif fawreddog, gret, yr hon yn ei rhyferthwy a gariai bob peth o'i blaen. Er garwed y tywydd oddiallan, wele yn y Óastell draw rialtwch a llawenydd. Safai Castell Morlais ar lethr bryncyn bychan tua thair milldir o dref Merthyr Tydvil. Gad- ewch i ni droi ì mewn, Yn y neuadd eang yr oedd nifer luosog o bobl yn eistedd wrth y bwrdd—bwrdd derw, hir, yn llawn o ddanteith- ion o bob rhyw. Wrth ben y bwrdd eisteddai dyn, bychan o gorffolaeth, a'i wallt hir, du, yn syrthio yn dorchau trwchus dros ei ysgwyddau llydain. Arddangosai ei gorff, er yn fychan, gryfder a nerth anarferol, y llygaid gleision a'r gwyneb agored dynerwch dihafal; tra y gallasai y craff ganfod yn ei wefusau teneuon wroldeb ac egni penderfynol ac ystyfnig. Y mae llygaid pawb arno. Ifor bach ydyw, perchenog y Oas- tell a thywysog Dyfed. "Fy nghydwladwyr," meddai, "y mae Oymru heno'n gorwedd o dan draed y gelyn. Dygwyd y Morman creulawn i'n gwlad gan y bradwr a'r cynllwynwr diefìig, Iestyn ap Gwrgant, ac ail wa- hoddwyd hwynt gan Einion ap Oollwyn. Lladd- wyd dewr Rhys Tewdwr. Cymerwyd Castell Caerdydd—allwedd y Deheudir—oddiarnom ; ac y mae * y gorthrymwr llwfr, Robert, Iarll Caer- íoyw—bastardd y brenin Harri—beunydd yn ein sarhau. Y mae hefyd wedi cymeryd oddi- arnaf un o ranau ffrwythlonaf a gwerthfawrocaf fy ystad, sef Senghennydd. Mae ein cydwlad- wyr dewr yn gaethion ganddo, eu meibion a'u merched dan ofal ei fìlwyr creulawn yn y Castell, ac yn agored i wawd a dirmyg beunyddiol; an- fonir y rbai hyny allant weithio i ofalu am ei ddft ef, neu, a dweyd yn gywir, y dâ a gymerodd oddiar y Cymry, a ffline;ellir hwy yn ddiarbed ganddo am droseddau bychain a dibwys." Ar hyn dyina guro ar y drws. Neidiodd pawb ar eu traed. "Agorwch y drws," meddai Ifor. Agorodd uu o'r gweision ef, a chanfu wr ieu- anc, yr hwu a gerddodd hyd ganol yr ystafell. Dallai y goleuni ei lygaid fel nas gallai weled am ychydig eiliadau, a safai í'el mudan ar ganol yr ystafell, ei ddillad gwlybion yn dyferu hyd y ìlawr, a'i wallt Uaith yn cuddio ei wyneb. " Croesaw i Gastell Morlais, os wyt Gymro !" llefai Ifor, gan gynyg iddo wydraid o fethyglyn. Cymeroid y llanc y gwydryn o'i law, acyfodd y cyfan oedd ynddo. Ar ol diolch am dano, efe a ddvwedodd:— " Fy anwyl Dywysog, archwyd fi i roddi i ti y fodrwy yma." " Mo'Ìrwy t'y nghyfnither, Bronwen !" meddai Ifor, gan edrych arni. " Pa le y cefaist hi î" " BronweD a'i rhoddodii i mi. Ond gad im' egluro it'. Uu o giiethweision Larll Caerloyw ydwyf, ac yr oeddwn hyd boreu heddyw yn garcharor yn y Ca,stell, ac wedi fy nghondeinnio i farw heno ; oud dieugais ; ac yn uooí a cbyngor Bronwen, daethum i ddweyd fy nghwyn wrth yr unig Dywysoi? all estyn cymhorth i Gymry gor- thrymedig Morganwg, y rhai sydd yn gorwedd dan iau'r Norman. Dygwyd tir fy nhad oddi- arno ; ac anfonwyd ei blant i'r Castell, er mwyn, meddai Robert, dysgu iaitn wareiddiedig iddynt, ond mewn gwiriouedd er eu caethiwo, tynu allan o honynt eu teimladau annibynol a gwladgarol, a hyny nid trwy diriondeb a charedigrwydd, ond trwy y fHangell. Y mae fy nghefn yn dolurio y fynyd yma ar ol y fflangell gefais ychydig ddydd- iau yn ol gan weisiou yr larll am geisio achub anrhydedd Bronwen. Edrych!" A chan daflu y fantell o groeu oedd dros ei ysgwyddau, efe a ddangosodd iddynt olion gwaedlyd y fflangell a'r creithiau ar ei gefn. " 0 Dduw !" llefai Ifor. " A raid i blant yr hen Frythouiaid ddyoddef hyn V " Na raid," oedd bloedd unedig dau gant o fìl- wyr, y rhai a safent o amgylch y bwrdd, gan chwyfio eu cleddyfau uwch eu penau. " Mynwn ryddid, neu trengwn yn yr ymdrech." Erbyn hyn yr oedd yr holl warchodlu, oeddent ychýdig fynydau yn ol yn dawel wrandaw ar Ifor bach, wedi eu cyi»hyrfu gymaint gan y gwaradwydd a daflesid ar Arthur (canys dyna pwy oecld y Uencyn, fel y mae y darllenydd