Skip to main content

Cyv. IX,—ähif. 10.—Hydeef, 1889. CYYAILL • YR • AELWYD: ëijìwMM Ptot Ät WHmmttU y (Spttg. Y MEISTR A'R GWEITHIWR: Eü PERTHYNAS YN NGOLEUNI Y TESTAMENT NEWYDD. Gan Tafolog. EAE y pwnc yn eang, a nodedig o amser- ol, fod y Testament Newydd yn taflu goleuni ar gwestiynau cymdeithasol, a gymerir yn ganiataol. A diau ei fod yn ffaith. Nid oes dim o fewn holl gylch amgylchiadau a dyledswyddau bywyd nad yw y Testament Newydd yn taflu goleuni arno—naill ai yn y ffurf o gyfarwyddiadau pendant, neu o egwydd- orion llydain, o gymhwysiad cyffredinol—fel ag i fod yn arweinydd dyogel i'r sawl a dalant sylw priodol iddo. Y mae y goleuni hwn yn un safonol; ac y mae gymaint uwchlaw arferion y byd, a rhagfarnau cymdeithas, nes peri i'r gwahaniaethau amgylchiadol y tuedda ceidwaid y terfynau cymdeithasol i'w mwynhau rhwng dynion a'u gilydd i ymddangos yn hynod o ddi- ddim ; tra y mae eu cyd-berthynas â Duw fel Creawdwr ac Arglwydd pawb, ac a'u gilydd, fel brodyr, yn rhoddi gwedd o gydraddoldeb gwreiddiol iddynt sydd yn hawlio ystyriaeth pob diwygiwr cymdeithasol teilwng o'r enw. Bu adeg pan ymddygai yreglwysi Cristionogol at y cwestiwn sydd tan sylw, fel rbai yn tybied mai eu doethineb ymarferol penaf hwy oedd dylyn esiampl Galio ar gwestiwn arall, ac nad oedd a fynent hwy, yn eu cymeriad fel lampau adlewyrchol goleuni y Testament Newydd, âg ymyraeth a chwestiyuau mor fydol a'r dadleuon yn nghylch hawliau arian a llafur. Ond nid wyf yn sicr na ddaifu rhai eglwysi wneudyr hyn oedd yn waeth na dangos difaterwch, sef tueddu i gymeryd plaid y cryf ynerbyn y gwan ; o leiaf, bod yn fwy gofalus i wasgu ar y gweith- wyr y rhwymedigaeth o ymddarostwng i'r " awdurdodau goruchel" nag a fuont i ddysgu y cyfoethogion i ddwyn beichiau y gweiniaid, ac felly cyflawnu cyfraith Crist Os ydyw hyny yn ffaith, nid yw yn rhyfedd iawn fod lluaws y dosbarth gweithiol—yn enwedi^ yn Lloegr— wedi troi eu cefnau ar yr eglwysi, gan ddweyd mewn ymddygiad : " Os ydych chwi yn cynrychioli meddyliau a theimladau Iesu o Nazareth, mewn perthynas â'n cwynion a'n trallodion, rhaid i ni edrych i gyfeiriad arall am waredwr i gydymdeimlo â ni, ac i ddwyu ein beichiau." Âc wrth weled hyn, a gweled gwaredwyr eraill yn cymeryd arnynt ddyf'od yn mlaen, gan honi fod Cristionogaeth yn fethiant, naturiol iawn oedd i'r syniad dywynu ar feddwí y byd crefyddol gyda newydd-deb ac awdurdod datguddiad o'r nef fod y Testament Newydd yn taflu goleuni ar eu cwestiynau, a'i fod yn rhan arbenig o genadaeth yr eglwysi, ac atbrawon crefyddol i adlewyrchu y goleuni yn ei burdeb a'i wres i ddylanwadu yn iachaol ar gysyllt- iadau anmharus y gymdeithas ddynol. Priodol, hwyrach, ydyw cychwyn gyda'r gosodiad fod y Testament Newydd yn cydnabod y berthynas rhwng meistr a gwas fel un hanfod- ol i gymdeithas, yn ol natur pethau. I bob meddwl rhesymol a ddarllenodd yr Efengylau a'r Epistolau, tybiaf fod y gosodiad hwn mo hunan-brofedig, fel mai afraid treulio amser i'wr brofi. Tra mai trefn natur a rhagluniaeth yw fod uwchafiaeth ac isafiaeth i fod ar bob llaw, nid y cwestiwn ydy w, A ddylai meistr a gwas hanfodi fel aelodau yn y corff cymdeithasol 1 ond, Pa fath feistr a gwas a ddylai y naill a'r llall fod ydyw cwestiwn mawr Cristionogaetb? Ond er addef fod y meistr a'r gweithiwr yn han- fodol i gymdeithas, eto, amlwg yw, yn ol y drefn bresenol, nad ydynt yn cydweithio yn esmwyth, —y maent yn rhy derjyg i aelodau allan o gymal. Er yn aelodau i'w gilydd, bron na wrthwynebant eu gilydd, yn fynych, hyd ddweyd y naill wrth y lla.ll,—" Nid rhaid i mi wrthyt." Mae yr bawliau a'r dyledswyddau sydd yn gorphwys ar, ac yn codi o'r berthynas yn cael eu hanwybyddu a'u hesgeuluso, fel y mae y teim- ladau o barch, cydymdeimlad, ac ewyllys da, a ddylent fod yn ffrwythau naturiol y berthynas, yn brinion ; tra y mae y teimladau cyferbynioí fel chvsỳn difaol, yn mallu y cnwd o lwyddiant cymdeithasol a moesoldeb a fedem pe byddai y cydweithiad yr hyn a ddylai fod. Mae yr an- foddlonrwydd a'r dadleuon mynych rhwng meistriaid a gweithwyr am gyflog, ac amodau eraill gwaith ag sydd yn terfynu mewn " sefyll allan," er colled y rhan amlaf i'r ddwy blaid, yn arwydd amlwg tod drwg yn rhyw le eisiau ei symud. Fel rheol, tybir fod llawer gormod o wahaniaeth rhwng elw y meistr a thal y gweithiwr ; a thra y tuedda y meistr i fyned yn gyfoethocach, gyfoethocach, nes i'w gyfoeth ymchwyddo "dros feddwl calon," prin, yn fynych, y glyn wrth y dwylaw sydd yn llafurio i'w gasglu ddigon i gyflenwi angenrheidiau mwyaf cymedrol bywyd yn yr presenol heb son am ystorio dim erbyn cystudd a henaint,—dim ond trugaredd galed y "plwyf" i droi ati mewn amgylchiadau felly i ofyn am ychydig tan yr enw "elusen," o'r hyn a ddylasent gael fel mater o hawl o gyfeiriad arall. Yn nghanol y berw ymrysonol rhwng arian a llafur, tybiodd llawer arglwydd caled ar ol Pharaoh mai dyogelwcb eu cestyll hwy oedd