Skip to main content

Crv. IX.—Ähif. 9.—Medi, 1889. CYVAILL • YR • AELWYD: LLYTHYR-GLUDIAD TRAWSFORAWL. GOLYGIADAU GWLEIDYDDWYR ENWOG. Gan yr Anrhyd. T. L. James. (Cyn Bost-Feistr Cyffredinol yr Unol Dalaethau). >AN y dadleuais yn ffafr llythyr gludaeth trawsforawl rhatach, mewn gwledd a roddwyd genyf fì a'r Anrh. W. R. Grace, yn Llundain, yn mis Hydref, 1883, gwawdid y syniad gan rai o'r swyddogion perthynol i lythyr- swyddfa Washington. Awgryment nad oedd y peth yn ymarferol o gwbl, a'm bod wedi crwydro i fyd dychymygol o'm eiddo fy hun. Ond y mae pob gwelliant cynygiedig ar y cyntaf yn cael ei wrthwynebu a'i wawdio, a gwneir hyn yn aml gan ddynion galluog a chraff. Gwawdiodd Cicero y cyfnewidiad yn y calen- dar Rhufeinig, er fod y cy frifiad o'r amser a'r tym- orau ar y pryd, trwy ddi- ofalwch ac esgeulusdod yn yr oesoedd blaenorol, yn anghywir a gwallus. Yr oedd y cyfrifìad a gedwid pan wnaed y cyfnewidiad yn y calendar mor ddiffyg- iol lel yr oedd camgymeriad 0 bum' niwrrod athriugain yn bodoli. Trwy gyfrif yn 01 cylchdroadau y lloer, yr oedd eu cyfrifiad o dymorau y fiwyddyn bump a thri- ugain o ddyddiau o flaen yr haul—yr hydref, mewn gwirionedd, oedd yr hyn a gyfrifid yn auaf, a'r gauaf oedd yr hynaelwid yn wanwyn. Yr oedd y dydd hwyaf yn dyçwydd ddiwedd Awst, neu ddechreu Medi. Felly y bu yn Lloegr mewu cyfnod diweddarach, pau gynygiodd ArglwyddÖhesterfield fod y flwyddyn i ddechreu ar y laf o Ionawr yu Ue ar y 25ain o Fawrth, fel y gwnelid hyd y flwyddvn 1751, dy- wedodd y Duc o Newcastle ei fod yn cashau trefmadau newydd ffurfiog o'r fath, ac mai gwell iddo oedd peidio ymyraeth â threfuiadau oeddynt wedi eu sefydlu er's cyhyd o amser. Pan lwydd- odd Elias Howe i wneuthur peiriant gwnio a wniai ychydig bwythi, ceisiodd gan deiliwr i ddyfod i'w dy i roddi prawf ar y peiriant, a rhoddi ei farn ar y gwaith a wnelid ganddo. Ond anogai cyfeillion y teiliwr ef i beidio myned, gan ddweyd y hyddai peiriant gwnin, os gellid Uwyddo i'w gael i weithio yn briodol, yn sicr o wneud niwed dirfawr i urdd y nodwydd, ac y gwnelid y teilwriaid oll yn gardotwyr ; a glyn- odd y frawdoliaeth wrth y syniad hwn am y deng mlynedd nesaf. Buasai y peiriant gwnio cyntaf a wnaed, yn ddiameu, wedi cyfarfod â'r un dynged a'r peirianau yn âactriau cotwm a gwlan Lloegr, sef cael ei Iwyr ddinystrio, onib'ai am syniad arall a goleddid gan farchogion y nod- wydd, sef na ellid byth wneud peiriant a atebai y dyben. Nid pawb sydd yn hysbys o'r ffaith fod gwrthwynebiad cryf wedi cael ei ddangos yn Llundain i ddefnyddiad glo fel tanwydd yn lle coed a golosg (charcoal). Yr oedd y Llywodraeth yn bender- fynol o wrthsefyll i'r eithaf, ac atal yr hyn a ystyrid yn niweidbeth (nuisance) an- nyoddefol, a phasiwyd deddf Seneddol yn gwahardd llosgi glo yn y Brifddinas, gyda chosb dromam ei throseddu; a chofnodir fod un dyn o leiaf wedi ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i ddienyddio, o dan y ddeddf hono. Pa fodd y derbyniwyd y cynygiadau cyntaf am ddi- wygiadau yn y llythyr-doll a llythyr-gludiad ì Dywed Macaulay wrthym fod dinesydd Llundeinig an- turiaethus, o'r enw William Dockwray, yn ystod teyrnasiad Siarls yr Ail, ar draul fawr iddo ei hun, wedi cychwyn cyfundrefn o lythyr-doll ceiniog o fewn i derfynau y Brifddinas. Dos- barthid Uythyrau a pharseli ganddo chwe' gwaith y dydd yn yr ystrydoedd poblog a masnachol gerllaw yr Exchange, a phedair gwaith y dydd yn y rhanau eraill o'r Brifddinas. Cododd gwrthwynebiad cryf a phenderfynol i'r gwelliant hwn, Haerai y nwydd-gludwyr (porters) fod eu buddianau hwy mewn perygl, a rhwygent yr hysbysleni a osodid ar furiau y tai i hysbysu y cyhaedd o'r trefniant llesiol a chyfieus hwn. Yr oedd cyffro mawr yn Llundain ar y pryd o her- wydd ìlofruddiaeth vr Archesgob Godfrey gan Babyddion, meddid, a chaffaeliad papyrau brad- wriaethus Öoleman. Codwyd y cri mai trefniant Pabaidd oedd y llythyr-doll ceiniog. Dywedid fod yr euwog Dr. Oates (o ddirmygus goffadwr-