Skip to main content

Cxv. IX.—RniF. 8.—Awst, 1889. GYYAILL • YR • AELWYD: " OES Y BYD I'R IAITH GYMRAEG." Gan Tysilian, Boro', Lluädain. MAE penawd yr ysgrif hon yn ddigon cyfarwydd i bob un o ddarllenwyr y Cwaill, fel nad oes eisiau i rni dreulio amser i ddweyd pa le y gwelir ef amlaf, na pha beth ydyw ei ystyr. Gan bwy, a pha bryd, v llefarwyd y geiriau nis gwyddom. Dichon fcd canoedd o flynyddoedd oddiai hyny ; ond hyn sydd yn sicr, fod yr hwn a roddodd fodolaeth i'r geiriau yn teimlo fod yr hen iaith yn deilwng o gael byw holl ddyddiau y ddaear. Y mae hanes boreuol yr iaith yn ymgolli yn niwl hanesiaeth, er fod ambell i Gymio eithaíbl am ei holrhain yn ol i ardd Eden. Credir mai disgynyddion Gomer ydyw y Cymry. Darfu i'w hiliogaeth ef droi eu gwynebau tua'r gor- llewin, gan ymwasgaru ar hyd Ewrop ; ac ym- wthiodd un gangen o honynt—y Celtiaid—yn mlaen mor belled a Gaul, neu Ffrainc, fel y gelwir hi yn bresenol. Wedi dyfod hyd y fan yma, y mae yn naturiol meddwl na fu pobl aDturiaethus o'r fath yn hir iawn cyn croesi y culfor bychan sydd rhwng FfraÌDC a Lloegr. Ymsefydlodd rhai o honynt yn y wlad hon ; a dyma ddechreuad yr hen Frythoniaid. Mewn cysylltiad a'r wlad hon, ystyrir y dechreua eu hanes gwirioneddol (authentic history) ryw haner canrif cyn Crist, pan y gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid, dan lyw- odraeth y rhai y buont am dros bedwar cant o flynyddoedd. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, cododd amseroedd blinion, ac fel y mae yn ddigon hysbys, dechreuodd y Saeson ddyfod drosodd o lanau yr Elbe a manau eraill ; ac yn raddol gwthiwyd y Brytaniaid i'r gorllewin, i fynyddoedd Cornwall, Cymru, Westmoreland, a Cumberland. Y pryd hwnw yr oeddynt oll o'r un iaith ; ond erbyn heddyw mae iaith yr es- troniaid wedi gorlifo yi oll oddieithr mynydd- oedd a llechweddau rhamantus Gwalia, Yno y mae yr hen iaith yn aros, ac yn allu dylanwadol mewn crefydd a moesoldeb. Wrth edrych ar hanes y Gymraeg, y mae un peth yn ein taro yn neillduol, sef ei bod wedi cadw ei bodolaeth trwy lawer iawn o rwystrau. Fel y crybwyllwyd, gorchfygwyd yr hen Fryth- oniaid gan y Saeson, ac am flynyddoedd lawer erlidiwyd hwy fel bwystfilod y maes ar hyd íyuyddoedd Cymru ; a phan syrthiodd •• Llew- elyn ein Llyw olaf" dan ddyrnod angeuol y gelyn, cafodd Cymru golled anadferadwy ; ond '"os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei draed," ni bu yr iaith farw. Nofiodd i lawr dros donau o rwystrau, a thros gefnforoedd o anhawsderau, fel y gellir dweyd heddyw fod "hen iaith y Cymro mor fyw ag erioed." Ac er fod Sacson- ìaid y Ttmes a'r Telegraph yn ceisio darogan ei diwedd a chloddio ei bedd, y mae yr hen iaith anwyl fel aderyn ymfudol, yn cymeryd ei haden ac yn ehedeg dros y moroedd, gan wneud ei char- tref yn America, Awstralia, a glanau y Chupat yn Patagonia. " Y mae yn estyn ei changenau hyd y môr, a'i blagur hyd yr afon." Y mae yna gyhoeddiadau Cymreig yn dylifo allan o fwy na dau gyfandir erbyn heddyw. Argreffir amryw gyhoeddiadau Cymreig yn Pennsylvania, a siaredir yr iaith gan fìloedd o'n cydgenedl ar hyd yr Unol Dalaethau. Wrth weled yr ymdrechion a wneir yn y dyddiau diweddaf hyn o blaid y Gymraeg, gof- ynir gan lawer o angharedigion yr iaith, Paham yr ymdrechir cymaint o blaid ei bodolaeth, ac na adewir iddi dreiglo i ddifodiant ac ebargof- iant, fel llawer o ieithoedd eraill sydd yn eu beddau er ys oesau î Estroniaid mewn iaith ac mewn teimlad, os nad, yn wir, gelynion, sydd yn gofyn hyn. Ond yn nghanol yr anfri, y dirmyg, a'r gwawd a deflir arnom gan y Saeson, mae pob un o feibion cenedlgarol Gwalia yn barod i dori allan mewn banllef ogoneddus, " Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Mae yn werth ei chaáw er mwyn yr ystôr o lenyddiaeth sydd ynddi, yn enwedig ei bardd- oniaeth. Yr iaith oreu i osod allan natur, meddai un, ydy w yr un debycaf i natur ; ac yn hyn, yn ddiddadl, mae y Gymraeg yn rhagori. Nid ydyw y gerwindeb sydd ynddi ond y ger- windeb sydd wedi ei blanu gan Dduw yn natur o'i blaen. Ac i'r bardd mae natur yn llawn o farddoniaeth. Ymfflachia ei enaid mewn mwyn- had wrth syllu ar y doldir teg, y gornant risial- aidd, a'r coedydd cysgodfawr. Tanir ei awen gan y mynydd uchel, cribog, creigiog, ysgythrog, a ymsaetha ei goryn moel i'r eangderau fry. Ac y mae y wedd ramantus a wisgir gan natur yn Ngwalia Wyllt yn un rheswm, yn sicr, am y llu beirdd mae wedi gynyrchu ; er mai ambell un o honynt sydd wedi llwyddo i gerfio ei enw yn nghraig anfarwoldeb. Mewn cysylltiad a hyn, dywedai un o'r newyddiaduron Seisnig yn ddi- weddar nad oedd Cymru erioed, er ei holl faldordd yn nghylch llenyddiaeth ac eistedd- fodau, wedi cynyrchu un bardd oedd mewn bri dros holl gyfandir Ewrop. Mae hynyna yn wirionedd ; ond dylem gofio fod gan yr anfan- teision addysgawl y bu y beirdd Cymreig yn llafurio danynt, yn nghyd a'r iaith y cyfansodd- ent ynddi, lawer i'w wneyd â hyn. Beth bynag am enwogrwydd, mae gan rai o'n prif feirdd ddarnau ddeil eu cystadlu â gweithiau unrhyw un o feirdd y Cyfandir. Y mae gan Eben Fardd a Hiraethog ddarnau sydd ysgwydd yn ysgwydd â rhanau goreu " Coll Gwynfa" Milton.